Ddydd Mercher, 26ain Mawrth, arweiniodd Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, ddadl yn y Senedd wedi’i hysbrydoli gan ymgyrch Sefydliad y Merched (WI), Meddwl yn Wahanol: Menywod a Merched Awtistig ac ADHD. Amlygwyd y rhwystrau systemig sy’n wynebu menywod a merched niwroamrywiol yn y ddadl a galwyd am gamau brys i wella diagnosis a chefnogaeth.
Wrth siarad yn y Senedd, talodd Ms Fychan deyrnged i’r nifer o fenywod a merched awtistig ac ADHD y mae eu lleisiau’n parhau i ysbrydoli newid. Mynegodd ei diolch i’r WI, yn enwedig Ann Ball o WI Pontypridd a Maggie Knight o Glam Girls, sydd wedi hyrwyddo’r ymgyrch Meddwl yn Wahanol yn ddi-flino.
Amlygodd Ms Fychan yr heriau sy’n wynebu menywod a merched niwroamrywiol o fewn y system addysg, gan bwysleisio canlyniadau niweidiol diagnosis hwyr, camddiagnosis, a stereoteipiau cymdeithasol. Rhannodd fewnwelediadau o sgyrsiau gyda gweithwyr addysg, elusennau lleol, ac unigolion niwroamrywiol, gan danlinellu’r angen am hyfforddiant gwell, cefnogaeth gynyddol, ac ailwampio offer diagnostig sy’n anwybyddu profiadau penodol i’r rhywiau.
Yn dilyn y ddadl, dywedodd Ms Fychan: “Roedd y ddadl hon yn gyfle i atseinio profiadau menywod a merched, sydd yn gyson yn mynd ar goll mewn trafodaethau am niwroamrywiaeth. Wedi’i fy ysbrydoli gan ymgyrch ‘Meddwl yn Wahanol’ Sefydliad y Merched, rwy’n galw am well diagnosis a chefnogaeth, a chamau ystyrlon gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn. Mae’n hanfodol ein bod yn herio stereoteipiau ac yn sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth y maent yn eu haeddu.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter