HELEDD FYCHAN AS YN CEFNOGI HER PASBORT GŴYL AMGUEDDFEYDD CYMRU WEDI’I LLWYDDIANT YNG NGHANOL DE CYMRU

Mae AS Plaid Cymru, Heledd Fychan, yn annog teuluoedd ar draws Canol De Cymru i gymryd rhan yn yr Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru newydd sbon, ar ôl ei lansiad llwyddiannus yn ystod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni. Mae'r Ŵyl, sy'n cael ei chynnal rhwng 28 Hydref a 5 Tachwedd, yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a'i nod yw hyrwyddo amgueddfeydd a’r nifer sydd yn eu ymweld.

Gwnaeth nifer fawr o amgueddfeydd lleol gymryd rhan yn yr Ŵyl eleni, gydag Amgueddfa Cwm Cynon, Amgueddfa Caerdydd, Amgueddfa Pontypridd, ac Amgueddfa Parc Treftadaeth Rhondda ymhlith y 45+ o amgueddfeydd ar hyd a lled Cymru.

Cafodd Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru ei lansio eleni am y tro cyntaf, sy’n gwahodd unigolion i ymweld â chwe amgueddfa erbyn 14 Ebrill 2024 a bod â chyfle i ennill tocynnau teulu un diwrnod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chlustffonau Beat Studio 3.

Dywedodd Heledd Fychan AS, a oedd ei hun yn gweithio yn y sector amgueddfeydd yng Nghymru, cyn ennill ei sedd yn y Senedd: "Mae'r ŵyl eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae'n hyfryd gweld cymaint o amgueddfeydd lleol Canol De Cymru yn cymryd rhan. Mae'r Her Pasbort yn cynnig cymhelliant ychwanegol i ymweld ag amgueddfeydd hyd at fis Ebrill, ac archwilio treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru."

Roedd yr Ŵyl eleni’n cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau oedd yn addas i deuluoedd, gan gynnwys gweithgareddau Calan Gaeaf yn seiliedig ar lyfryn a gomisiynwyd yn arbennig gan yr awdur plant Casia Wiliam ar y Calan Gaeaf Celtaidd. Yn ogystal â hynny, roedd gweithdai dewiniaeth Amgueddfa Pontypridd wedi’u gwerthu allan yn gyflym iawn eleni a chafodd Amgueddfa Caerdydd, Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ac Amgueddfeydd Cwm Cynon eu cynnwys mewn llwybr arbennig ar hanes a diwylliant amrywiol Cymru – sef thema’r Ŵyl eleni.

Dywedodd Rachael Rogers, o Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru: "Mae'r ŵyl yn gyfle gwych i arddangos y gwaith anhygoel a wneir gan amgueddfeydd ledled y wlad. Mae ein hamgueddfeydd nid yn unig yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu am ein treftadaeth Gymreig, ond maen nhw hefyd yn hyrwyddo'r Gymraeg, ac yn cynnig digwyddiadau am ddim mewn lle cynnes a chroesawgar sy'n bwysicach nag erioed."

Am fwy o wybodaeth am yr Her Pasbort a'r amgueddfeydd ynghlwm â’r fenter ewch i: www.museums.wales/cy/pasbort


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-11-06 15:30:24 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd