
Ro'n i'n falch o gefnogi fy nghydweithiwr, Sioned Williams AS fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol wrth iddynt lansio adroddiad ar eu hymchwiliad i gyflwr hawliau dynol yng Nghymru yr wythnos diwethaf.
Bu i'r ymchwiliad asesu a yw Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i gryfhau hawliau dynol.
Casglwyd tystiolaeth gan dros 20 o randdeiliaid, gan ganolbwyntio ar bum cytuniad allweddol y Cenhedloedd Unedig: UNCRPD (Pobl Anabl) CEDAW (Menywod) ICESCR (Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol) CERD (Gwahaniaethu Hiliol) CRC (Hawliau Plant).
Mae'r adroddiad wedi cadarnhau'r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod o dystiolaeth gan bartneriaid allweddol a thystiolaeth unigol bod bwlch sylweddol yn parhau rhwng dyheadau a gweithredu y tu hwnt i'r sylfaen bolisi a deddfwriaethol gref sydd gennym yng Nghymru.
Mae unrhyw uchelgais feiddgar, yn enwedig o ran hawliau dynol sylfaenol, yn ofer oni bai bod Llywodraeth Cymru yn fodlon arwain ar weithrediadu, o fynediad teg i wasanaethau cyhoeddus a chanlyniadau o'u defnyddio, amddiffyniad digonol i grwpiau dan anfantais, i fynd i'r afael â rhwystrau economaidd-gymdeithasol i arfer hawliau unigol. Rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r adroddiad awdurdodol hwn fel cyfle i arwain y ffordd ar hawliau dynol yn y DU gyda chamau gweithredu go iawn.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn drwy'r linc hwn.

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter