Holiadur Iechyd i drigolion Glyncoch

Holiadur Iechyd

Health_Survey_Craig_yr_Hesg.jpg

Ers dod yn Aelod etholedig o'r Senedd 5 mlynedd yn ôl, rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl yng Nglyncoch.

Y mater sy'n dod i'm sylw amlaf yw chwarel Craig yr Hesg.

Rydw i wedi bod yn gweithio gyda thrigolion Glyncoch i geisio cau'r chwarel.

Gwrthodwyd caniatâd cynllunio i'r chwarel gan yr awdurdod lleol am lawer o resymau, ac un o'r rhesymau yna oedd yr effaith bosibl ar iechyd trigolion lleol.

Yn anffodus, fe wnaeth Y Blaid Lafur yn y Senedd wrthdroi penderfyniad RhCT i beidio â rhoi estyniad a rhoi caniatâd llawn iddynt barhau am 30 mlynedd arall, gan ddod â'r chwarel hyd yn oed yn agosach at y trigolion lleol.

I helpu'r trigolion lleol yn eu hymgyrch, rydw i’n cynnal arolwg iechyd.

Mae'n bwysig gwybod sut mae byw'n agos at y chwarel yn effeithio ar eu hiechyd a pha effaith y mae'n ei chael ar eu bywydau bob dydd. Rydw i wedi dosbarthu dros gant a hanner o gopïau papur o'r holiadur i'r rhai sy'n byw agosaf at y chwarel lle mae’r llwch fwyaf cyffredin.

Mae'r holiadur yn gofyn i bobl a yw'r chwarel wedi effeithio ar eu hiechyd mewn unrhyw ffordd, neu hyd yn oed a ydyn nhw'n teimlo ei fod wedi. Rwy'n bwriadu casglu'r holl ymatebion a chreu adroddiad o'r canlyniadau.

Cyhoeddir yr adroddiad terfynol a bydd ar gael yma.

Gallwch gael mynediad at yr holiadur drwy ddilyn y ddolen hon.


Dangos 1 ymateb

  • Danny Grehan
    published this page in Newyddion 2026-03-12 15:03:17 +0000