Heb os, bu Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a gynhaliwyd ym Mharc Ynysangharad yn ddiweddar yn llwyddiant ysgubol, gyda llawer o bobl yn dweud mai hon oedd yr Eisteddfod orau erioed. Rwy'n cytuno!
Chwaraeodd cymaint o bobl o bob rhan o’r sir ran allweddol yn hyn, o godi arian i baratoi baneri ac arwyddion, gwirfoddoli yn ystod yr wythnos, cynnal digwyddiadau, sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio’n effeithlon, yn ogystal â hyrwyddo popeth sydd gan Rondda Cynon Taf i’w gynnig. Hoffwn ddweud diolch enfawr i bob un ohonynt. Roedd yn ymdrech gymunedol, a gallwn ni i gyd fod yn falch o’r wythnos a gafwyd.
Yn bersonol, roeddwn i wrth fy modd gweld Pontypridd mor brysur gyda chaffis, bariau a bwytai hyd yn oed yn rhedeg allan o fwyd ar adegau! Hyfryd hefyd oedd clywed cymaint o bobl sy’n gwybod dim Cymraeg, neu sy’n dysgu, yn mwynhau popeth oedd gan yr Eisteddfod i’w gynnig, gan brofi bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom yma yng Nghymru, p’un a ydym yn ei siarad ai peidio.
Hyfryd hefyd oedd gweld cymaint o bobl yn perfformio yn ystod yr wythnos, yn ogystal â gweld cymaint o bobl leol yn ennill, megis Gwynfor Dafydd o Donyrefail a enillodd y goron, Eurgain Haf o Bontypridd a enillodd y fedal ryddiaith a Nathan James Dearden o Donyrefail a enillodd Tlws y Cyfansoddwr. Mae RhCT yn amlwg yn sir sy'n llawn doniau!
Gyda chymaint o bobl bellach yn canmol Rhondda Cynon Taf, a hefyd yn frwd dros y Gymraeg, pa gamau sy'n rhaid eu cymryd nawr i sicrhau etifeddiaeth barhaol?
Dro ar ol tro, clywais bobl yn mynegi syndod pa mor hawdd oedd hi i gyrraedd Pontypridd, gyda llawer yn addo dychwelyd i ymweld â'r farchnad, cael pryd o fwyd, mynychu digwyddiad yn YMa neu'r Miwni, neu fwynhau'r Lido. Dywedodd llawer hefyd eu bod bellach am grwydro gweddill y sir, ar ôl dysgu am yr hyn a gynigir trwy'r eisteddfod. Rhaid inni felly barhau i adeiladu ar ein harlwy twristiaeth, a pharhau i hyrwyddo’r cynnig diwylliannol a threftadaeth, yn ogystal â busnesau lleol.
O ran yr iaith, rhaid parhau i fuddsoddi mewn addysg Gymraeg, cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg i bobl o bob oed, a hefyd yn hollbwysig, digwyddiadau Cymraeg sy’n agored i bawb, ond sy’n rhoi cyfle i bobl gael hwyl a mwynhau eu hunain fel bod y Gymraeg yn parhau i gael ei gweld fel iaith fyw. Mae llefydd fel Clwb y Bont, yr Hen Lyfrgell yn y Porth a’r Lion yn Nhreorci i gyd yn chwarae rhan hollbwysig yn hyn, a gobeithio y bydd pobl yn parhau i’w cefnogi. Mae ein corau hefyd yn cynnig cyfleoedd i berfformio yn y Gymraeg, ac os teimlwch wedi’ch ysbrydoli i ymuno ag un ar ôl yr Eisteddfod, rwy’n siŵr y cewch eich croesawu â breichiau agored!
Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn chwarae rhan hollbwysig wrth hyrwyddo'r iaith, a darparu cyfleoedd i bobl ddefnyddio pa bynnag Gymraeg sydd ganddynt. Mae'r tîm yn perfformio gwyrthiau, gyda chyllideb fach iawn, ond gyda chefnogaeth, gallant chwarae rhan ganolog wrth adeiladu ar lwyddiant yr Eisteddfod. Maent hefyd yn gyfrifol am drefnu Parti Ponty, ac mae angen inni sicrhau y cânt eu hariannu i drefnu un y flwyddyn nesaf, er mwyn i’r rhai a fwynhaodd yr eisteddfod gael cyfleoedd pellach i fwynhau digwyddiadau Cymraeg.
Mae’r rhain i gyd yn faterion y byddaf yn eu codi gyda Chyngor RhCT a Llywodraeth Cymru yn yr wythnosau nesaf, ac rwy’n siŵr y bydd gan lawer o rai eraill ar draws y sir eu syniadau eu hunain hefyd o ran sicrhau etifeddiaeth.
Os hoffech chi gysylltu am hyn, neu unrhyw fater arall, mae croeso i chi anfon e-bost ataf: [email protected] Mae fy nhîm a minnau yma i helpu.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter