Adroddiad Costau Byw Canol De Cymru

Ar 17 Chwefror 2022, gwahoddais sefydliadau lleol sy'n cynnig cymorth i bobl sy'n wynebu argyfwng i ddod atei gilydd i drafod sut y gallwn gydweithio i sicrhau bod pawb yn cael y cymorth sydd ar gael iddynt.

Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o Gyngor ar Bopeth, Banc Bwyd Taf Elái a Phontypridd, Age ConnectsMorgannwg, Cynulliad Pobl Cymru, Little Lounge, gweithredu ar Dlodi Plant, Dillad Cymunedol Carmel, YRP aChyngor Caerdydd.

Yn dilyn yr uwchgynhadledd, mae swyddfa Heledd Fychan AS wedi cynhyrchu adroddiad sy'n dwyn ynghydholl dystiolaeth a thystiolaeth sefydliadau sy'n gweithio gyda pobl lleol i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.

Defnyddir yr adroddiad hon i ddeall yn well sut y gallwn gefnogi cymunedau ar draws Canol De Cymru ySenedd. 

Yn siarad ar gyhoeddi'r adroddiad ychwanegodd Heledd Fychan AS:

“Fel y gwyddom i gyd, mae prisiau ynni, tanwydd a bwyd yn codi'n ddramatig. Ynghyd â'r toriad iGredyd Cynhwysol a'r caledi ariannol y mae llawer yn ei ddioddef o ganlyniad i'r pandemig, mae poblledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw. Yn anffodus, ni fydd hyn ond yn gwaethygu wrth ibrisiau barhau i godi.”

“Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd neu anfonodd dystiolaeth am y sefyllfa y mae pobl yn eucymunedau yn ei hwynebu o ganlyniad i gostau byw cynyddol. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau'r uwchgynhadledd yn ogystal â chyfres o flaenoriaethau yr oedd sefydliadau a oedd yn bresennol yn teimlo oedd y rhai pwysicaf.

“Mae fy nhîm a minnau'n edrych ymlaen i weithio gyda sefydliadau lleol i fynd i'r afael â'r mater hwn agwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau.”

Darllen y adroddiad isod.

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-04-06 11:09:07 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd