Adroddiad yn dilyn y Cyfarfod o’r Rhwydwaith Costau Byw drefnwyd gan Heledd Fychan AS
Tonyrefail Community Centre / The Lighthouse Project, Prichard Street, Tonyrefail, CF39 8PA.
18.10.2024
Ar Hydref 18 daeth mudiadau sy’n gweithio’n lleol ac yn genedlaethol at eu gilydd yn Nhonyrefail fel rhan o wythfed Cyfarfod Rhwydwaith Costau Byw drefnwyd gan Heledd Fychan AS. Pwrpas y rhwydwaith yw ymateb i anghenion y bobl yn ein cymuned trwy ddod â grwpiau cymunedol a mudiadau at eu gilydd i rannu gwybodaeth, hybu partneriaethau a thrafod atebion posibl.
Dros y dair blynedd diwethaf daeth yn amlwg nad argyfwng dros dro sydd gyda ni ond un parhaol.
Y siaradwyr oedd:
- Andrew Butcher a Matthew Stevens Banc Bwyd Taf Elai a Trussel
- Steffan Evans Pennaeth Polisi (Tlodi) gyda Sefydliad Bevan
- Rocio Cifuentes MBE Comisiynydd Plant Cymru
Dyda grynoneb o’r cyflwyniadau:
Andrew Butcher
Rhannodd Andrew wybodaeth am y pedwar Banc Bwyd yn Rhondda Cynon Taf. Roedd am ein hatgoffa bod y rhifau hyn yn cynrychioli pobl, oedolion, plant a’r henoed. (Cyflwyniad wedi atodi)
Mae Trussell yn ceisio gweithio yn agosach gyda pantrïoedd bwyd cymunedol i sicrhau bod data yn cael ei gasglu am dlodi bwyd yn ein cymunedau.
Materion yn Codi
- Heriau pobl i lenwi ffurflenni yn enwedig ar-lein
- Mae Pantri Cynon yn hapus i rannu ystadegau ond yn gofyn pan fo data yn cael ei rannu gyda gwleidyddion beth sy’n digwydd i’r data yna a beth yw’r canlyniadau?
Matthew Stevens - Cydlynydd ymgyrch Trussel
Gwarantu’r Hanfodion
- Mae 80% o dderbynwyr pecynnau bwyd ar fudd-daliadau. Mae dros eu hanner yn dweud na fedran nhw fforddio pethau hanfodol.
- Mae’r ymgyrch hon yn galw am 3 gweithred. Pe bai nhw gyd yn cael eu gwireddu byddai’n codi 8 miliwn o bobl allan o dlodi, gan gynnwys 600,000 o blant:
- Proses annibynnol i bennu lefel Gwarant Hanfodion yn rheolaidd, yn seiliedig ar gost hanfodion, megis bwyd, cyfleustodau a nwyddau cartref hanfodol.
- Bod yn rhaid i gyfradd sylfaenol Credyd Cynhwysol (ei lwfans safonol) gyrraedd y lefel hon o leiaf, a
- Na all didyniadau (fel ad-dalu dyled i'r llywodraeth, neu o ganlyniad i'r cap budd-daliadau) byth dynnu cymorth yn is na'r lefel hon
Dr. Steffan Evans Pennaeth Polisi (Tlodi) gyda Sefydliad Bevan
Rhoddodd Dr Evans gyflwyniad yn gosod tlodi Cymru yng nghyd destun diffiniad Joseph Rowntree o dlodi ( gweler cyflwyniad wedi atodi)
Bydd Sefydliad Bevan yn gwneud gwaith pellach ar y meysydd canlynol:
Tai fforddiadwy ( Mae awdurdodau lleol Cymru yn gwario £100m y flwyddyn ar lety dros dro ar hyn o bryd) Nowhere to call home: Understanding our housing crisis - Living in temporary accommodation - Bevan Foundation
Gofal plant – am fod cymryd hoe o’r gwaith yn sgil diffyg gofal plant fforddiadwy yn cael effaith hir dymor ar incwm mamau yn arbennig
System fudd-daliadau Cymreig – mae gwaith wedi dechrau ar hyn ond araf yw’r gwelliannau
Mynediad at gyfiawnder er enghraifft cinio ysgol am ddim i blant mewnfudwyr a’r rheini heb fynediad hawl i arian cyhoeddus
Apiau i reoli’ch arian (Emma / Plum / Hyperjar)
Mae rhwng 12-14% o bobl wnaeth ymateb i arolwg Sefydliad Bevan yn eu defnyddio ac yn eu ffeindio yn ddefnyddiol
Materion a godwyd :
Mae llawer o’r datrysiadau yn ddewisiadau gwleidyddol ac nid yw tlodi yn anochel
Nid yw sefydliad Bevan yn cefnogi ymdrechion y llywodraeth i wahardd cynigion 3am2 gan y siopau ar fwydydd llai iach oherwydd yr effaith ar y rheiny sydd fwyaf tlawd.
Rocio Cifuentes Comisiynydd Plant Cymru
Erbyn bod plentyn yn 5 oed mae hanner y caloriau maent yn ei fwyta yn cael eu defnyddio gan eu hymennydd. Felly rhaid cofio fod effaith diffyg maeth ar blant Ifanc yn hynod o arwyddocaol.
Swydd y Comisynydd yw hybu ac eirioli am hawliau dynol plant – sydd wedi eu hymgorffori yn CCUHP
Mae gan y Comisiynydd dîm o 22 person yn gweithio ym Mhort Talbot. Maent yn ceisio mynd allan cymaint a phosibl i siarad gyda pobl yn y gymuned. Yn ddiweddar buont mewn banciau bwyd ble adroddwyd hanesion o effaith eithafol tlodi ar blant – sefyllfaoedd oedd fel straeon Dickens o amserau Fictoraidd.
Mae gwaith y Swyddfa wedi ei seilio ar ymateb dros 10,000 o blant a phobl Ifanc i arolwg a wnaethant ac sydd wedi arwain at eu strategaeth 3 blynedd. StrategaethTairBlynedd_CYM.pdf
Adroddodd Pwyllgor monitro y Cenhedloedd Unedig llynedd taw problem mwyaf hawliau plant Cymru a’r DU oedd tlodi plant a bod angen strategaethau gwell gyda thargedau a ymrwymiad gwleidyddol.
Rhai o’r prif faterion polisi mae’r Comisiynydd yn ymgyrchu arno yw:
- Cartrefi a di-gartrefedd
- Yr alwad am drafnidiaeth am ddim i bobl Ifanc a phlant
- Gwell Cymorth am gyflyrau iechyd meddwl
Dywedodd Rocio fod anghydraddoldeb a thrachwant yn faterion sydd angen sylw.
Materion a godwyd gyda Rocio:
Gofynnwyd am y penderfyniad diweddar gan Lywodraeth Cymru I wrthod cefnogi TGAU mewn Iaith Arwyddo Prydain BSL – penderfyniad sydd yn effeithio ar allu pobl ifanc a phlant i gyfathrebu.
Cefnogwyd yr alwad am drafnidiaeth am ddim. Er bod y Comisiynydd a’r Pwyllgor Deisebau wedi gofyn i Lywodraeth Cymru baratoi at hyn, gwrthodwyd yr alwad.
Gofynnwyd cwestiwn am Senedd Ieuenctid Cymru – sef corff o 60 o bobl ifanc sydd yn cael eu hethol gan bobl ifanc. Ar hyn o bryd nid oed rheidrwydd i Lywodraeth Cymru ymateb i’w hargymhellion na’u hadroddiadau.
Atgoffodd y Comisiynydd bod gan ei Swyddfa weithwyr achos sydd yn gallu rhoi cymorth weithiau a bod croeso i unrhyw un gyfeirio achosion atyn nhw.
Cysylltwch a:
01792 765600
08088011000
Adborth o’r digwyddiad
Roedd ymatebion gan y rhai yn y cyfarfod yn dangos bod pobl wir wedi mwynhau’r siaradwyr gwadd a’r wybodaeth a ddarparwyd, a’r cyfle i rwydweithio.
Dywedodd pawb yr hoffent weld cyfarfod arall ac awgrymwyd sesiynau ar rieni sengl, iechyd meddwl pobl ifanc, bwydydd iach, tlodi mewn gwaith, ac galwad am sesiwn sy'n canolbwyntio ar nodau penodol (sut i'w cyflawni).
Pwy oedd yn bresennol?
- Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy RhCTCBC
- Cymru Gynnes
- Siop Rhannu Cymunedol Porth
- Cyngor i’r Byddar Cymru
- Interlink
- Valleys Kids
- Cronfa Cymunedol y Loteri
- Strategaeth Bryncynon
- Grow Rhondda CIC
- Clwb Ieuenctid Ynysbwl
- Valleys Steps
- Pantri Tonyrefail, New Life Church
- Trussell
- Banc Bwyd Pontypridd
- Arts Factory
- Gobaith Clothing Presbyterian Church of Wales
- Cwmni Theatr Spectacle
- Coalfields Regeneration
Os heffech chi ddod i ddigwyddiadau yn y dyfodol, neu yn nabod rhywun fyddai’n hoffi derbyn gwybodaeth, gofynwch iddyn gysylltu â [email protected]
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter