Digwyddiad rhwydwaith Costau Byw- Mehefin 2024

Wrth siarad â thrigolion Canol De Cymru mae'r argyfwng Costau Byw yn parhau i fod yn un o'r materion mwyaf sy'n effeithio ar bobl yn ein cymunedau.

Dyna pam mae cynnal digwyddiadau fel y digwyddiad rhwydweithio costau byw heddiw yng nghanolfan gymunedol Maerdy mor bwysig. Mae angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu ar frys a chefnogi'r rhai mwyaf anghenus yn ein cymunedau.
Diolch yn fawr i'r holl sefydliadau a fynychodd a diolch yn arbennig i @AgeCymru am eu cyflwyniad.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod angen cefnogaeth ar y mater hwn neu unrhyw un arall, cysylltwch â ni. Rydw i yma i helpu.
Nodiadau o'r digwyddiad

Cyflwyniad 1. Michael Phillips Age Cymru

 

Profiadau a Sylwadau Age Cymru

  • Canfu arolwg diweddar o dros 1300 fod llawer o faterion yn effeithio ar bobl hŷn.
  • Roedd Covid wedi gadael etifeddiaeth o afiechyd ac unigedd
  • Mae yna lawer o bobl hŷn nad ydyn nhw wedi ail-ymuno â gweithgareddau cymdeithasol y tu allan i'r cartref ers y clo
  • Mae un rhan o bump o ymatebwyr yn byw mewn tlodi cymharol
  • Mae'r dewis i fwyta neu gynhesu yn realiti i lawer o'r bobl hyn
  • Mae gwresogi annigonol yn arwain at fwy o salwch ac afiechyd
  • Mae diffyg toiledau cyhoeddus yn rhwystr i lawer o bobl rhag gadael y tŷ ac mae achosion o bobl yn dadhydradu er mwyn osgoi gorfod mynd i doiledau cyhoeddus.
  • Mae cau banciau wedi gwneud hawliau ariannol yn amhosibl i'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol
  • Mae llawer yn talu am eu gofal o'u cynilion eu hunain
  • Mae pobl yn aros yn hir am wasanaethau gofal, ac yn cael trafferth ymdopi
  • Mae £200m o danwariant yn y pot Credyd Pensiwn ac mae Age Cymru wedi bod yn cefnogi ymgyrchoedd ar hyn
  • Mae petrol yn eitem foethus i lawer

 

PRIF GALWADAU POLISI GAN AGE CYMRU AR GYFER POBL HŶN

  • Cynyddu cyllid ar gyfer ymgyrch hawlio Budd-daliadau
  • Dod o hyd i ffordd o sicrhau bod hawl pobl i gredyd Pensiwn a Lwfans Gofalwr yn dod yn awtomataidd i leihau tlodi
  • Ni ddylai fod unrhyw newidiadau pellach yn oedran pensiwn y wladwriaeth
  • Gwella profiadau yn y gweithle fel bod pobl yn gallu gweithio'n hyblyg ac yn rhan amser
  • Cadwch y clo triphlyg ar bensiynau
  • Buddsoddi mewn atgyweirio a gwella tai
  • Sicrhau bod pobl hŷn yn gallu defnyddio trafnidiaeth i gyrraedd apwyntiadau meddygol

 

 

 

 

 

ADBORTH AC ARGYMHELLION GAN BOB SEFYDLIAD

  • A yw'n bosibl cael system talebau symlach ar gyfer banciau bwyd? Mae taith bws yn rhy bell i bobl hŷn sydd eisoes wedi goresgyn eu synnwyr o gywilydd er mwyn gofyn am fwyd.
  • Mae angen i ni ymateb i'r cais cyntaf am gymorth heb ail-gyfeirio
  • Roedd rhai pobl o’r farn bod y system talebau yn cynyddu’r stigma
  • Mae allgáu digidol yn fater arwyddocaol iawn, sy’n golygu bod angen i sefydliadau fuddsoddi adnoddau sylweddol i helpu pobl i oresgyn hyn. Does fawr o help gan gwasanaethau ffôn Credyd Cynhwysol, gyda phobl yn cael eu hannog i beidio â gwneud ceisiadau ffôn a rhag defnyddio eiriolwyr
  • Mae cwynion am agwedd anogwyr gwaith DWP yn anghwrtais a phobl yn cael eu cadw i aros hyd at awr am alwad ffôn
  • Mae yna bryderon y bydd y newid i ddigidol yn gyfle i sgamwyr fanteisio ar bobl hŷn.
  • Tlodi daearyddol - Maerdy, Glynrhedynog a Tylorstown yn dioddef llawer mwy oherwydd nad oes ganddynt wasanaethau trên a dim hwb banc

Bancio – y gangen agosaf i lawer yw Caerffili, Caerdydd, Pontypridd neu’r Bont-faen.  Ni ellir gwneud llawer o wasanaethau yn y canolfannau megis cau cyfrifon, ychwanegu llofnodwyr, newid enwau, gofyn am gopïau o ddatganiadau. 

Hybiau Bancio – Mae pobl yn profi gwasanaethau gwael gydag amseroedd aros o awr mewn ciw heb unrhyw sicrwydd o gael eu gweld.  Gall apwyntiad ar gyfer un cleient gymryd hyd at awr gan adael mwy o bobl mewn ciw y tu fas nag a welir ar y diwrnod hwnnw.

 

Tai

Roedd cytundeb y dylai tai fod yn addas ar gyfer grwpiau oedran penodol er mwyn lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd a sicrhau nad yw pobl hŷn yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Roedd dau berson creadigol yn bresennol a oedd yn cynnig rhywfaint o feddwl o safbwynt gwahanol.

Richard – Pan fyddwn yn sôn am gynhwysiant i beth rydym yn cynnwys pobl? Mae yna thema yn dod i'r amlwg ar fanciau yn ein hoes ni.  Banciau ariannol, banciau bwyd a glannau ein hafonydd sy’n cael eu llygru.

Spectacle – Rhannodd Carys werth gweithio rhyng-genedlaethau, gan bontio’r bylchau a dysgodd na ddylai pobl gael eu labelu a’u grwpio dim ond oherwydd eu bod o oedran arbennig. Nid yw pawb yn hoffi Bingo!

 

Mynychwyr o mudiadau 

Ynysybwl Regeneration, Warm Wales, Good Cop Bad Cop, Trivallis, RCT, Citizens Advice, Age Connect Morgannwg, Arts Factory, Manage Money Wales & Community Shop, Dant y Llew CIC, Spectacle Theatre, RCT Together, Gilfach Goch Community Association

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-05-21 10:28:42 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd