Dydd Mawrth 19 Gorffennaf, cynhaliodd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Canol De Cymru, a Luke Fletcher, Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, ddigwyddiad costau byw ym Mhont-y-clun. Adeiladodd hyn ar ddigwyddiad a drefnwyd gan Heledd Fychan AS yn Nhrefforest ym mis Chwefror, lle daeth sefydliadau ynghyd o wahanol rannau o ranbarth Canol De Cymru. Maen’t i gyd yn gweithio i gefnogi pobl sydd yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.
Fel y gwyddom i gyd, mae costau cynyddol bwyd, tanwydd ac ynni yn rhoi unigolion a theuluoedd dan straen anferthol. Ffocws y digwyddiad oedd cael gwell dealltwriaeth o sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar sefydliadau lleol a'u defnyddwyr gwasanaeth. Roedd hefyd yn gyfle i fynychwyr sefydlu perthnasoedd gwaith ac i ddysgu arfer gorau oddi wrth ei gilydd.
Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o Gyngor ar Bopeth, Banciau Bwyd Taf Elai a Phontypridd, Interlink, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cyngor Cymuned Llanharan, Y Pantri Llanharan, Uned Pobl a Gwaith ac Age Cymru – Hope. Roedd pawb yn cytuno bod angen mwy o gydweithio a chyfeirio at wasanaethau ei gilydd, o ystyried maint yr argyfwng y mae pobl sy’n byw yn ein cymunedau yn ei wynebu.
Wrth siarad yn dilyn y digwyddiad dywedodd Heledd Fychan AS:
“Mae pob sefydliad yn gweld sut mae costau cynyddol yn effeithio ar fwy a mwy o bobl, ac mae angen mwy o gymorth i sicrhau bod pobl yn gallu fforddio’r pethau sylfaenol fel bwyd, tanwydd ac ynni.
“Mae tlodi mewn gwaith yn dod yn broblem gynyddol, ac mae angen i bob haen o Lywodraeth gydweithio i sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i helpu pobl.
“Mae’r sefydliadau a fynychodd y digwyddiadau i gyd yn gweithio’n galed i gefnogi pobl, ac roedd yn ddefnyddiol iawn dod at ein gilydd i drafod beth sydd angen ei newid a sut gallwn ni i gyd weithio’n agos gyda’n gilydd i ddarparu cefnogaeth.
“Bydd hon yn flaenoriaeth barhaus i fy swyddfa, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n dioddef i geisio cyngor a chymorth.”
Gall trigolion Canol De Cymru – sef ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Chaerdydd – gysylltu’n uniongyrchol gyda swyddfa Heledd am ragor o gymorth drwy [email protected] neu 01443 853214.
Gallwch ddarllen yr adroddiad o'r digwyddiad trwy glicio ar y ddelwedd isod.
Dangos 2 o ymatebion
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter