Argyfwng Costau Byw

Fel y gwyddom ni oll, mae prisiau ynni, tanwydd a bwyd yn cynyddu’n aruthrol. Ynghyd a’r toriad i gredyd cynhwysol a caledi ariannol mae nifer yn ei wynebu yn sgil Covid, mae yna bobl ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw. Yn anffodus, gwaethygu fydd hyn wrth i brisiau barhau i gynyddu.

Ar yr 17eg o Chwefror, cynhaliais uwch-gynhadledd yn Nhrefforest ar y pwnc hwn gan ddod a sefydliadau sy’n cynnig cymorth i bobl sy’n wynebu sefyllfaoedd argyfyngus ynghyd, megis Cyngor ar Bopeth a banciau bwyd lleol. Fe wnaethom drafod sut y gallem gyd-weithio i sicrhau bod pawb yn derbyn y cymorth sydd ar gael iddynt, a’n bod yn cydweithio i sicrhau bod rhagor o gefnogaeth ar gael.

Dyma fideo byr yn crynhoi'r trafodaethau:

Ar y run diwrnod, cyhoeddodd Plaid Cymru gynllun 5 pwynt i daclo’r argyfwng costau byw yng Nghymru:

  1. Helpu pobl gyda'u biliau ynni - drwy ehangu'r cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i'r Gwanwyn.
  2. Cefnogi plant a phobl ifanc - drwy gyflymu'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim a chynyddu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg
  3. Canslo dyled - ôl-ddyledion treth gyngor a dyled prydau ysgol
  4. Cymorth gyda thai - trwy ymestyn y Grant Caledi Tenantiaeth a chapio codiadau rhent tai cymdeithasol a chynyddu'r gronfa taliadau tai yn ôl disgresiwn
  5. Gwrthdroi’r toriad i Gredyd Cynhwysol – a datganoli pwerau dros les

Dengys y cynllun pum pwynt sut y gellir mynd i’r afael â’r argyfwng yn uniongyrchol yma yng Nghymru, i helpu pobl gyda chostau cynyddol, i gapio biliau lle bo’n bosibl, ac i ganiatáu mwy o hyblygrwydd i bobl mewn gwaith trwy gynyddu gofal plant am ddim.

Yn y cyfamser, os ydych chi, neu unrhyw un rydych yn eu hadnabod, yn wynebu argyfwng neu eisiau cyngor ar unrhyw fater, cofiwch bod croeso ichi gysylltu a fy swyddfa am gymorth una’i drwy ebostio [email protected] neu ffonio 01443 853214.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-02-22 10:49:03 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd