Wythnos diwethaf, cefais yr anrhydedd o gael fy newis i fod yn rhan o ddirprwyaeth y Senedd i Gynhadledd Seneddwyr Merched y Gymanwlad Ynysoedd Prydain a Môr y Canoldir yn Gibraltar. Roedd thema eleni yn canolbwyntio ar sut y gallwn ddenu a chadw Seneddwyr Benywaidd Effeithiol.
Cefais y pleser o gyflwyno Argymhellion Amrywiaeth ar gyfer Diwygio’r Senedd i'r gynhadledd. Roedd yn wych rhannu arferion da a chlywed am yr heriau gwahanol y mae'r Seneddau'n eu hwynebu ar draws y Gymanwlad a sut maen nhw’n datblygu rhaglenni i wella amrywiaeth a chynhwysiad wrth wneud penderfyniadau.
Roedd yn wych gweld cymaint o ferched yn cefnogi ei gilydd, er gwaethaf rhai gwahaniaethau yn ein gwleidyddiaeth.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter