Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi y bydd canghennau meddygfa Taff Vale f yn cau yn barhaol yn Ynysybwl a Chilfynydd. Cafwyd gwrthwynebiad sylweddol i’r penderfyniad hwn, a wnaed ar 25 Gorffennaf, gan drigolion lleol a chynghorwyr Plaid Cymru Amanda Ellis, Paula Evans, a Hywel Gronow, yn ogystal â’r Aelod Senedd Rhanbarthol, Heledd Fychan.
Dywedodd Heledd Fychan, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, yn sgil y penderfyniad:
“Bydd y newyddion hyn yn achosi pryder a siom i lawer o drigolion lleol sydd eisoes yn cael trafferth sicrhau apwyntiadau, yn enwedig y rhai sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynychu apwyntiadau mewn canghennau eraill.”
“Mae cael meddyg teulu yn y gymuned yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd hanfodol a sicrhau llesiant trigolion. Byddaf yn parhau i weithio ochr yn ochr â’n cynghorwyr lleol i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau gofal iechyd sydd eu hangen arnynt mewn modd amserol, a monitro bod y feddygfa yn rhoi’r mesurau lliniaru y cytunwyd arnynt ar waith megis cynyddu nifer yr ymweliadau cartref a gwella parcio yn Ysbyty Dewi Sant.”
Disgwylir i’r cau gael effaith ar gleifion Taff Vales, ac anogir trigolion sydd â phryderon neu gwestiynau i gysylltu â’u cynrychiolwyr lleol am gymorth a gwybodaeth.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter