Mynychais gyfarfod y British Irish Parliamentary Assembly yn Cavan yn Iwerddon ar y 23-25 o Hydref.
Fel y gallwch ddychmygu, roedd ffocws y trafodaethau ar adfer llywodraeth yng ngogledd Iwerddon a phryderon ynglŷn a’r angen am etholiad arall yno os na fydda’i cytundeb. Mae effeithiau Brexit yn parhau i bryderu nifer, gan gynnwys beth fydd effaith hyd ar y cytundeb Dydd Gwener y Groglith.
Mae’n fraint cynrychioli Senedd Cymru ar y Cynulliad hwn, ac mae’n braf datblygu cysylltiadau gyda gwleidyddion o ledled yr ynysoedd hyn. Yn sicr, roedd y cysylltiadau Celtaidd yn gryf!
Dysgwch fwy am BIPA yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter