Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi

Roedd y 9fed – 15fed Hydref yn nodi wythnos ymwybyddiaeth colli babi. Yn rhy aml, mae pobl yn dioddef mewn distawrwydd, ac yn teimlo wedi eu hynysu o eraill. Mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau diwedd i farwolaethau babanod y gellid bod wedi eu hatal, a sicrhau bod rhieni sydd wedi colli baban yn cael eu cefnogi. Roedd hi'n wir yn anrhydedd gallu cwrdd â rhieni oedd wedi dioddef profedigaeth i ddysgu mwy am y gwaith amhrisiadwy maen nhw'n ei wneud i gefnogi rhieni eraill ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn i Geoff a Jude Davies o Morgan’s Wings, Heather o Sands UK a Sarah Davies o Ffion’s gift am rannu eich profiadau gyda mi.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-11-08 11:53:24 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd