Heledd ydw i, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru sydd yn cynnwys ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Rwyf yn byw ym Mhontypridd gyda fy ngŵr ac ein mab. Ond er bod Pontypridd wedi bod yn gartref imi ers bron i ddegawd, yn Ynys Môn y cefais fy magu cyn imi fynd i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn. Yn ystodfy nghyfnod yn yr Iwerddon, cefais fy ethol fel Swyddog Sabothol Addysg Undeb y Coleg ac yna fel swyddog sabathol Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Wedi hynny, dychwelais i Gymru a cwblhau fy ngradd meistr mewn Hanes Canoloesol ym Mhrifysgol Bangor.
Bum yn gweithio am gyfnod wedi hynny fel rhan o grŵp Plaid Cymru yn San Steffan cyn dychwelyd unwaith eto i Gymru i weithio i Amgueddfa Cymru. Cyn etholiad 2021, roeddwn yn gweithio fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus y sefydliad, gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Yn ogystal â hyn, cefais fy ethol yn aelod o fwrdd Cymdeithas yr Amgueddfeydd, gan gadeirio eu pwyllgorau Moeseg a Cenhedloedd.
Er mai hwn fydd y tro cyntaf y byddaf yn eich cynrychioli yn y Senedd, rwyf wedi bod yn ymgyrchu ar nifer o bynciau sydd yn bwysig i'n cymunedau ers nifer o flynyddoedd. Yn 2017, cefais fy ethol i gynrychioli Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn ogystal a Cyngor Tref Pontypridd. Ers fy ethol, rwyf wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd lleol amlwg, megis galw am ymchwiliad annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a gwrthwynebu newidiadau i ysgolion yn ardal Pontypridd.
Fy mlaenoriaethau ar gyfer y tymor Senedd hwn yw, yn gyntaf, cefnogi cymunedau ledled y rhanbarth i adfer o effaith COVID-19. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal ag addysg, a chefnogi busnesau a gweithwyr llawrydd sydd wedi colli incwm o ganlyniad i gyfyngiadau.
Yn ail, rhaid inni weithredu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae gennym ddeng mlynedd i achub ein planed, ac mae angen Llywodraeth arnom a fydd yn blaenoriaethu gweithredu brys yn hytrach na gwneud addewidion gwag.
Yna yn drydydd, mynd i'r afael a thlodi plant, a sicrhau cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru. Mae’n frawychus bod mwy a mwy o deuluoedd o fewn ein rhanbarth yn ddibynol ar fanciau bwyd, a heb fynediad at nwyddau cyfangwbl allweddol megis bwyd.
Rwyf hefyd ers yr etholiad yn lefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Yn ogystal â'm dyletswyddau yn y Siambr, byddaf hefyd yn eistedd ar y pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Cymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ogystal â'r pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Gallwch glywed mwy am fy ngwaith yn y Senedd drwy glicio yma
Mae fy swyddfa ranbarthol ym Mhontypridd. Rwyf yn cynnal cymorthfeydd rheolaidd, lle rwyf yn cynnig help a chyngor i bobl sydd angen cefnogaeth, yn y swyddfa a ledled y rhanbarth. Os bydd angen i chi gysylltu â mi neu fy nhîm cyn hynny gallwch gysylltu trwy anfon e-bost ataf- [email protected]
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter