GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU YN WYNEBU TWLL ARIANNOL O £65 MILIWN

Heddiw, mae Mark Drakeford wedi cadarnhau bydd Trysorlys y DU yn defnyddio'r fformiwla Barnett i gyfrifo cyfran Cymru o gyllid i ddiogelu sefydliadau'r sector cyhoeddus rhag cynnydd Yswiriant Gwladol Llafur.

 Mae Plaid Cymru yn dweud y bydd hyn yn gadael gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu twll ariannol.

 Mae gan Gymru ganran uwch o weithwyr yn y sector cyhoeddus, o'i gymharu â Lloegr a gweddill y DU.

 

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Cyllid Llafur, Mark Drakeford, yn y Senedd fod Llywodraeth Cymru "bellach yn brin o £65 miliwn" ar y cyllid sydd ei angen i ddiogelu'r sector cyhoeddus rhag y codiadau mewn trethi.

 Tynnodd Heledd Fychan AS sylw at y ffaith bod hon yn enghraifft arall o sut mae dyw Cymru ddim yn cael tegwch oherwydd y fformiwla ariannu hen-ffasiwn.

 Galwodd am 'eglurder brys' gan Lafur yng Nghymru ar ba effaith fyddai'r 'penderfyniad trychinebus' yn ei chael ar gyrff sy'n darparu gwasanaethau hanfodol yng Nghymru.

 Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyllid, Heledd Fychan:

 "Mae Cymru yn wynebu twll ariannol o £65 miliwn yng nghyllid ein gwasanaethau cyhoeddus diolch i gynnydd Yswiriant Gwladol Llafur.

 "Dyma enghraifft arall, os oedd angen un, o "annhegwch sylfaenol" y fformiwla ariannu a sut mae San Steffan - a Llafur - yn cymryd Cymru yn ganiataol.

 "Mae Lloegr yn cael ad-daliad llawn am y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, nid yw Cymru. Mae hyn yn ddamniol o'r hyn a elwir yn 'bartneriaeth mewn pŵer', gan fod Llafur yng Nghymru yn amlwg heb ddylanwad ar benderfyniadau eu cydweithwyr yn Llundain.

 "Mae Plaid Cymru yn mynnu eglurder brys gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa effaith y bydd y penderfyniad trychinebus hwn gan Lafur yn ei chael ar gyrff sy'n darparu gwasanaethau hanfodol yng Nghymru."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2025-04-03 14:12:17 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd