​'Rapid review' needed to tackle education inequality in Wales

Heddiw, mae Llefarydd Plaid Cymru dros Blant a Phobl Ifanc, Heledd Fychan AS, wedi galw am Adolygiad Cyflym o anghydraddoldebau o fewn y system addysg yng Nghymru.

Daw ei galwad wrth i ymchwil newydd gan y Sefydliad Polisi Addysg ddangos fod disgyblion o gefndiroedd difreintiedig tua dwy flynedd y tu ol i'w cyfoedion. 

Dywedodd Heledd Fychan AS fod angen mynd i'r afael a'r broblem ar fyrder o ystyried y bydd yr argyfwng costau byw yn dwysau'r broblem dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Meddai Heledd Fychan AS:

"Mae’r canfyddiadau hyn yn peri cryn bryder ac yn dangos bod llawer o waith i’w wneud eto o ran cau’r bwlch cyrhaeddiad yng Nghymru. 

Dyma pam mae Plaid Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â thlodi plant fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, gan fynd i’r afael â gwraidd yr hyn sy’n achosi anghydraddoldeb ymhlith disgyblion yn y lle cyntaf. 

Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb ar frys gan y bydd y broblem yn gwaethygu yn sgil yr argyfwng costau byw. 

Dylai’r Gweinidog Addysg ystyried cynnal Adolygiad Cyflym er mwyn deall pam fod y sefyllfa yng Nghymru mor siomedig ac adrodd ar gyfres o argymhellion ystyrlon cyn dechrau tymor yr hydref. 

Fel bob amser, mae Plaid Cymru yn barod i chwarae ei rhan i gydweithio ar y mater hwn, yn union fel yr ydym wedi’i wneud drwy sicrhau prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd a gofal plant am ddim o 2 flwydd oed.” 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-07-21 03:22:46 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd