Heledd Fychan AS: Yn Mynegi Siom ynghylch Cynnwys Adroddiadau Llifogydd

 

Yn dilyn galwadau yr wythnos diwethaf gan Heledd Fychan AS i weddill yr adroddiadau ar lifogydd 2020 gael eu cyhoeddi, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi tri adroddiad arall heddiw.

Mae rhain yn canolbwyntio ar;

- Bontypridd

- Nantgarw a Glan-Bad

- Hirwaun

Wrth ymateb i gyhoeddi’r adroddiadau, dywedodd Heledd Fychan AS: “Er fy mod yn croesawu cyhoeddi’r adroddiadau hyn o’r diwedd, rwy’n siomedig o weld mai ychydig iawn o atebion neu sicrwydd y maent yn eu darparu i drigolion a busnesau a ddioddefodd llifogydd. 

“Dywedwyd wrthyf dro ar ôl tro gan gynrychiolwyr y Blaid Lafur yn lleol y byddai ymchwiliad annibynnol yn cymryd gormod o amser ac y byddai’r adroddiadau Adran 19 yn ddigonol, ac eto o’m darlleniad cyntaf o’r tri, mae gennyf nifer o gwestiynau a phryderon.

 “Mae cymunedau yn dal i fyw mewn ofn. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, dylem allu rhoi mwy o sicrwydd i’r rhai yr effeithiwyd arnynt.

“Byddaf yn parhau i weithio gyda thrigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt i sicrhau nad ydym yn anghofio beth ddigwyddodd a bod popeth posibl yn cael ei wneud i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu cefnogi a’u hamddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol.”


Dangos 2 o ymatebion

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-01-31 17:03:18 +0000
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-01-31 17:03:18 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd