Penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod ymchwiliad i Gymru wedi 'trosglwyddo'r holl reolaeth i Boris Johnson'
Ddoe (26 Ebrill 2022) ysgrifennodd Plaid Cymru at y Prif Weinidog i ofyn am gywiro'r cofnod ar ei ddatganiad ynghylch gallu Llywodraeth y DU i arwain yr ymchwiliad i COVID-19 yng Nghymru.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, dywedodd y Prif Weinidog na fydd Llywodraeth y DU yn arwain yr ymchwiliad. Bydd hynny'n gyfrifoldeb i'w gadeirydd annibynnol, y Farwnes Heather Hallett."
Fodd bynnag, mae llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS, yn nodi yn y llythyr fod hyn yn gwbl groes i ddatganiad a wnaed gan y Farwnes Heather Hallett, sy'n datgan mai'r Prif Weinidog sydd â'r penderfyniad terfynol ar y Cylch Gorchwyl.
Dywedodd Heledd Fychan mewn ymateb i'r llythyr yn cael ei anfon:
"Hyd yma, mae 10,082 o bobl yng Nghymru wedi marw o ganlyniad i Covid. Mae'n siomedig bod y Prif Weinidog yn dal i wrthod cefnogi Ymchwiliad Covid i Gymru.
"Pan dorrodd y newyddion fod Boris Johnson wedi cael dirwy am dorri'r gyfraith, roedd y Prif Weinidog ymhlith y nifer oedd yn galw am ei ymddiswyddiad. Eto i gyd, mae gennym sefyllfa lle mae'r Prif Weinidog yn fodlon ymddiried yn yr un person hwnnw sy'n gyfrifol am ymchwiliad i'r ffordd yr ymdriniwyd â COVID-19 yng Nghymru yn seiliedig ar y dybiaeth anghywir nad yw rywsut yn gyfrifol amdano.
"Yr wythnos hon mae gennym nodyn atgoffa arall o bwysigrwydd ymchwiliad COVID, yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys bod polisïau'r llywodraeth ar ryddhau cleifion sydd heb eu profi o'r ysbyty i gartrefi gofal yn Lloegr yn anghyfreithlon. Cyflogwyd yr un arferion gan Lywodraeth Lafur Cymru ar gyfer cleifion yng Nghymru.
"Rhaid i'r Prif Weinidog gywiro ei ddatganiad, ac ateb y cwestiwn gwreiddiol: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o allu Llywodraeth y DU i arwain yr ymchwiliad i COVID-19 yng Nghymru?
"Wrth wadu ymchwiliad sy'n benodol i Gymru i ni, trosglwyddodd y Prif Weinidog Llafur yr holl reolaeth i Boris Johnson."
Darllen y llythyr Llawn isod
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter