Adroddiad Senedd 9 Gorffennaf 2021
Mae wedi bod yn wythnos amrywiol iawn, gyda nifer o drigolion o bob rhan o'r rhanbarth yn cysylltu am ystod eang o faterion gwahanol. Gyda dim ond wythnos i fynd cyn i'r Senedd dorri am yr haf, rwyf yn ceisio cael cyfleoedd i godi pethau'n uniongyrchol gyda Gweinidogion. Mae pwyllgorau hefyd yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos nesaf, a cadarnhawyd y byddaf yn aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg, Cyfathrebu, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ogystal â'r Pwyllgor Safonau.
Pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yr wythnos hon:
Adroddiad Llifogydd Pentre
Yn dilyn ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, codais y mater ddwywaith yn y Senedd yr wythnos hon. Dwywaith gofynnais hefyd am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, o ystyried y ffraeo cyhoeddus ers cyhoeddi'r adroddiad rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor RhCT. Unwaith eto, gwrthododd Llywodraeth Cymru hyn ond i mi, dyma'r unig ffordd i sicrhau cyfiawnder i drigolion. Disgwylir i'r deunaw adroddiad adran 19 arall sy'n ymdrin â llifogydd 2020 yn RhCT gael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.
Cymdeithas Twnnel Rhondda
Ddoe, cefais yr anrhydedd o mweld â Chymdeithas Twnnel y Rhondda a mynd y tu mewn i'r twnnel. Mae'n brosiect gwych, sy'n ceisio ailagor y twnnel fel llwybr cerdded a beicio. Byddai'n wych i'r economi leol, gan ddenu twristiaid i ran brydferth o Gymru yn ogystal â gwella teithio actif. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://www.rhonddatunnelsociety.co.uk/
Grŵp Ymgyrch Ymwybyddiaeth Cyflymder Dwyrain Aberthaw
Ddydd Mercher, cefais wahoddiad i gwrdd â grŵp Ymgyrch Ymwybyddiaeth Cyflymder Dwyrain Aberthaw yn y Blue Anchor. Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan gynrychiolwyr lleol eraill, a gwnaeth trigolio eu hachos yn gryf dros yr angen am weithredu i fynd i'r afael â'u pryderon. Cytunwyd i weithio'n drawsbleidiol i geisio sicrhau mesurau tawelu traffig, yn ogystal â gwella cyfleoedd ar gyfer teithio actif diogel. Cytunwyd hefyd i weithio gyda'r gymuned a Trafnidiaeth i Gymru i archwilio ailagor y platfform ytrên.
Gwaith Arall
- Wedi cwrdd ag ITV Cymru a Colegau Cymru.
- Cyfweliad gan y BBC ynglyn â Thwnnel y Rhondda.
- Ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
- Mynychu sesiwn friffio gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, a gan godi gofal canser. Codais hefyd yr angen am Ganolfan Diagnosis Canser yn y Rhondda gyda'r Gweinidog Iechyd.
- Gwaith achos - mae fy nhîm yn parhau i gefnogi nifer o bobl ledled y rhanbarth ar nifer o wahanol faterion. Os oes angen ein help arnom, cysylltwch â ni - [email protected]
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter