Cyhoeddi Tri yn Rhagor o Adroddiadau Llifogydd 2020 – Ble Mae'r Gweddill?

Mewn ymateb i alwadau gan Heledd Fychan AS, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf heddiw wedi cyhoeddi tri adroddiad pellach i lifogydd 2020 o ganlyniad i Storm Dennis.

Mae'r rhain ar gyer ardaloedd:

- Trefforest

- Glyntaf a'r Ddraenen Wen

- Ffynnon Taf

Daw hyn â chyfanswm yr adroddiadau Adran 19 a gyhoeddwyd i 6 gyda 13 arall heb eu cyhoeddi eto, a dim gwybodaeth ynglyn a pryd y cânt eu cyhoeddi. Mae Nantgarw a Phontypridd mhlith yr ardaloedd sy'n aros am adroddiad Adran 19.

Mae disgwyl hefyd 9 adroddiad ymchwiliad llifogydd, ac nid yw'n glir ar hyn o bryd a yw rhain wedi'u cwblhau gan nad yw'r Cyngor yn bwriadu eu cyhoeddi.

Wrth siarad mewn ymateb i gyhoeddi’r tri adroddiad, dywedodd Heledd Fychan AS: “Rwy’n croesawu cyhoeddi’r tri adroddiad o’r diwedd, a byddaf yn gweithio’n agos gyda thrigolion i sicrhau eu bod yn cael eu craffu. Byddaf hefyd yn sicrhau bod unrhyw gwestiynau neu bryderon sy’n weddill ganddynt ar ôl darllen yr adroddiadau yn cael eu codi gyda’r awdurdodau perthnasol.

“Mae cymunedau’n dal i fyw mewn ofn, ac mae’r ffaith bod cymaint o’r adroddiadau dal heb eu cyhoeddi yn destun pryder. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, dylem allu rhoi mwy o sicrwydd i’r rhai yr effeithiwyd arnynt.

“Mae gormod o gwestiynau yn parhau ynglŷn â beth ddigwyddodd ar y penwythnos tyngedfennol hwnnw. Byddaf yn parhau i weithio gyda thrigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt i sicrhau nad ydym yn anghofio beth ddigwyddodd a bod popeth posibl yn cael ei wneud i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu cefnogi a’u hamddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-01-25 17:13:27 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd