Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol bellach wedi agor ym Moduan, mae llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg a diwylliant, Heledd Fychan AS, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i sicrhau dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Wrth siarad o’r maes, pwysleisiodd Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg, bwysigrwydd yr ŵyl i Gymru a’r Gymraeg, gan gydnabod yr heriau mae’r sefydliad wedi ei wynebu yn sgil Covid, Brexit a’r argyfwng costau byw.
Dywedodd Heledd Fychan AS:
“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn rhan bwysig o’n hunaniaeth fel cenedl, ac yn gyfle blynyddol i ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw a chyfoes.
“Mae’r Eisteddfod hefyd gyda rôl bwysig i’w chwarae o ran cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg yn rhyngwladol.
“Tra bod Llywodraeth Cymru yn rhoddi peth cefnogaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol, nid yw wedi gweithredu’n llawn ar yr argymhellion wnaed gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlodd yn 2012, gan gynnwys yr angen i gynyddu’r grant refeniw a grant cyfalaf.
“Gyda rhagor o gefnogaeth gan y Llywodraeth, gellid sicrhau dyfodol yr Eisteddfod a hefyd ei hyrwyddo’n ehangach fel gŵyl ryngwladol o bwys.
“Rhaid hefyd gwneud mwy i sicrhau bod teuluoedd lleol i’r ŵyl yn cael y cyfle i fynychu a mwynhau, drwy ymrwymo i ariannu mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel lleol yn flynyddol. Dylai’r Llywodraeth hefyd archwilio gyda’r Eisteddfod opsiynau ar gyfer cael Eisteddfod am ddim yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf, fel y bu ym Mae Caerdydd yn 2018.
“Heb os, mae’r Eisteddfod wedi wynebu heriau lu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda Covid, Brexit a’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar incwm a chostau. Nid ar chwarae bach mae cynnal gŵyl deithiol o’r fath safon, ac os ydym am ei gwarchod i’r dyfodol, yna mae angen i’r Llywodraeth wneud mwy i gynorthwyo hynny.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter