Yn ddiweddar, fe wnaeth Merched y Wawr Pontypridd ymweld â’r Senedd. Roedd yn braf gweld cymaint o wynebau cyfarwydd, a chael cyfle i drafod sut mae’r Senedd yn gweithio yn ogystal â fy ngwaith fel Aelod o’r Senedd.
Os hoffech ymweld â’r Senedd, ewch i’r wefan i gael gwybod am yr holl ddigwyddiadau gwych sy’n cael eu cynnal dros yr haf. Eich adeilad chi yw e, a gallwch ymweld unrhyw bryd y mae’r adeilad ar agor i’r cyhoedd heb archebu lle ymlaen llaw. Gallwch hefyd archebu teithiau drwy wefan y Senedd, gydag un o’r tywyswyr arbenigol. Mae ymweliadau addysgiadol hefyd ar gael i ysgolion.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter