Yn dilyn cyhoeddi ymgynghoriad gan Gyngor RhCT yn cynnig cau'r ysgol, ymwelodd Heledd Fychan AS gyda Ysgol Gynradd y Rhigos yn ddiweddar, gan gyfarfod â staff a disgyblion.
Yn ystod yr ymweliad, siaradodd Ms Fychan â Chadeirydd y Llywodraethwyr, staff a dysgwyr a gweld gyda’i llygad ei hun pa mor arbennig yw ysgol, a pham mae rhieni a’r gymuned leol wedi lansio ymgyrch i achub yr ysgol.
Er bod niferoedd y disgyblion yn isel, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan ysgol mewn pentref gwledig, mae'r addysg a'r cyfleusterau a ddarperir o safon uchel. Mae hefyd yn amlwg bod yr ysgol yn galon i’r gymuned leol, ac yn chwarae rhan allweddol o ran cydlyniant cymdeithasol.
Wrth siarad yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Ms Fychan: “Rwy’n cefnogi’n llwyr y rhai sy’n ymgyrchu i achub Ysgol Gynradd Rhigos.
“Rwy’n bryderus y bydd cau’r ysgol nid yn unig yn cael effaith negyddol ar y pentref ei hun, ond yn bwysicach, y plant a’u teuluoedd.
“Ar hyn o bryd, mae 72% o blant yn cerdded neu’n defnyddio beic neu sgwter i gymudo i’r ysgol. Mae 50% yn mynychu clwb brecwast, a 70% yn mynychu clybiau ar ôl ysgol. Mae cyfraddau presenoldeb yn uchel, ac mae’r disgyblion yn ffynnu.
“ Rwy’n annog Cyngor RCT i wrando ar y safbwyntiau a gyflwynir yn ystod yr ymgynghoriad a chadw’r ysgol ar agor.”
I weld y cynigion ac ymateb i'r ymgynghoriad, dilynwch y ddolen hon: Ymgynghoriad ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Rhigos | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter