Dydd Llun (18.6.2) cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylch gorchwyl yr adolygiad llifogydd annibynnol.
Wedi'i sicrhau fel rhan o gytundeb cydweithredu Plaid Cymru, mae'r adolygiad hwn yn gam cyntaf tuag at sicrhau'r atebion a chyfiawnder i bawb yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2020, yn ogystal ag ar draws Cymru gaeaf 2020 a 2021.
Bydd yr adolygiad annibynnol yn cael ei arwain gan un o fargyfreithwyr troseddol mwyaf blaenllaw'r DU, yr Athro Elwen Evans QC, a bydd yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael o ymchwiliadau a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd cyfle hefyd i'r cyhoedd gyfrannu at yr adolygiad drwy gyflwyno tystiolaeth drwy eu haelodau Senedd leol.
Pan gefais fy ethol, addewais fod yn llais cryf i gymunedau sydd mewn perygl o Lifogydd a chyda chefnogaeth y cymunedau hynny yr ydym wedi gallu sicrhau adolygiad annibynnol o lifogydd.
Mae wedi bod yn ddwy flynedd hir o ymgyrchu ond diolch i bawb sydd wedi ymgyrchu gyda mi rydym wedi cyflawni'r cam cyntaf pwysig hwn gyda'n gilydd ac rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad yn caniatáu i'r llywodraeth ac asiantaethau llifogydd cenedlaethol ddysgu o ddigwyddiadau yn y gorffennol a gwella eu dull o fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd.
Byddaf yn parhau i sicrhau bod eich lleisiau a'ch profiadau wrth wraidd y broses adolygu. Mae llawer ohonoch eisoes wedi rhannu tystiolaeth gyda mi, ond os nad ydych wedi gwneud hynny, byddaf yn cyhoeddi'n fuan sut y byddaf yn casglu tystiolaeth ychwanegol i'w chyflwyno i'r adolygiad.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter