Yn ddiweddar, ces gyfle i ymweld â Banc Bwyd Taf-Elái ac i gwrdd ag Andrew a'i dîm ymroddedig o wirfoddolwyr. Yn ystod ein cyfarfod, buom yn trafod yr heriau y mae'r banciau bwyd yn eu hwynebu wrth ateb y galw mawr am eu gwasanaeth. Roedd yn dorcalonnus clywed am yr effaith ddinistriol y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar bobl o bob oed, a faint o unigolion a theuluoedd sydd methu bwydo eu hunain a’u teuluoedd.
Mae'n realiti trist bod banciau bwyd wedi dod yn anghenraid, ond rydym yn ffodus bod sefydliadau fel Banc Bwyd Taf-Elái yn bodoli i ddarparu cefnogaeth i bobl mewn angen. Os gallwch gyfrannu at eich banc bwyd lleol, gwnewch hynny. Neu os ydych chi'n cael trafferth ac angen bwyd, cysylltwch â ni am help. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae cefnogaeth ar gael.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter