Ydych chi'n chwilio am wisg ysgol ar gyfer y flwyddyn newydd ysgol?
Gyda chostau byw yn cynyddu, bydd miloedd o deuluoedd yn cael trafferth fforddio gwisgoedd ysgol drud.
Mae nifer o brosiectau anhygoel ar draws y rhanbarth sy'n barod i helpu teuluoedd i leihau'r gost drwy gynlluniau ailgylchu gwisgoedd ysgol neu siopau Cyfnewid Gwisg Ysgol. Os ydych yn gwybod am unrhyw rai, plis rhoddwch linc yn y sylwadau.
Mae yna grant o hyd at £300 ar gael i rai teuluoedd i helpu tuag at gostau'r flwyddyn ysgol drwy'r Grant Datblygu Disgyblion.
Mae’n bosibl defnyddio'r grant i dalu am wisg ysgol neu gost offer. I wneud cais mae angen cysylltu â'ch awdurdod lleol:
RhCT: https://bit.ly/3dAmFCn
Bro Morgannwg: https://bit.ly/3SRpU8S
Caerdydd : https://bit.ly/3QNzQhE
Nid yw pawb sydd angen cymorth yn gynnwys am y GDD, felly os ydych yn cael trafferth fforddio costau ysgol, cysylltwch gyda fy swyddfa i ganfod pa gymorth arall alla’i fod ar gael.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter