Heledd Fychan AS: Mae rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi dioddefwyr stelcian yng Nghymru.

Heddiw, Wnaeth Heledd Fychan AS agor dadl Plaid Cymru ar Stelcian yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwneud mwy i mynd i'r afael â'r broblem hon a sicrhau mwy o gefnogaeth i ddioddefwyr.

Mae stelcian yn batrwm o ymddygiadau digroeso, sefydlog, obsesiynol ac ymwthiol gan un person tuag at berson arall, sy’n achosi ofn o drais a thrallod i’r unigolyn sydd yn cael eu targedu.

Yn y ddadl dywedodd Heledd Fychan AS:

"Mae’n hawdd meddwl am stelcian fel rhywbeth sydd dim ond yn digwydd i ffigyrau cyhoeddus neu enwogion megis ser pop. Ond y gwir amdani heddiw yn y Deyrnas Unedig yw y bydd 1 ym mhob 5 menyw a 1 ym mhob 10 dyn yn cael eu stelcian ar ryw bwynt y neu bywydau. Yn wir, amcangyfrif bod oddeutu 1.5 miliwn o bobl yn cael eu stelcian yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn.

"Fodd bynnag, mae’r niferoedd mewn gwrionedd yn debygol o fod yn uwch na'r ffigwr hwn am nifer o resymau megis: diffyg ymwybyddiaeth o beth yw stelcian, cymhlethdodau ynghylch perthynas yr unigolyn â'r troseddwr, sut mae ymddygiad stelcian fel arfer yn datblygu dros amser, ofn am ddiogelwch personol, diffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol, profiadau trawmatig blaenorol, ac ymateb anfoddhaol gan yr heddlu pan mae rhywun yn cwyno. Yn frawychus hefyd, ar gyfartaledd, mae’n cymryd 100 achos o ymddygiadau digroeso gan stelciwr cyn i berson gysylltu gyda’r heddlu ynglyn a hyn. Cefnogir hyn gan ymchwil a wnaed gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh a ganfu nad oedd bron i ddwy ran o dair o’r goroeswyr stelcian y buont yn siarad â nhw ers dechrau’r pandemig wedi rhoi gwybod i’r heddlu amdano.

"Rydym wedi gweld cynnydd sylwedol mewn stelcian dros y degawd diwethaf, ac mae wedi cynyddu hefyd yn sylweddol dros gyfnod y pandemig. Yn wiry ng Nghymru, os ydym yn cymharu ffigyrau Ebrill- Mehefin 2020 i ffigyrau Ebrill i mehefin 2021, mae cynnydd o 30% wedi bod yn y nifer o achosion o stelcian a aflonyddu gafodd eu recordio. Yn Nyfed-Powys, roedd cynnydd o 102%, 23% yng Ngogledd Cymru a 24% yn Ne Cymru. Yng Ngwent, bu gostyngiad o 1%.

"Yn 2020, cofnododd gwasanaethau cymorth stelcio a heddluoedd ymchwydd yn nifer y stelcwyr sy’n troi at dactegau ar-lein i aflonyddu ar unigolion yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud, yn enwedig yn ystod pedair wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud cyntaf, wrth i bobl gael eu cyfyngu i'w cartrefi. Mewn gwirionedd, gwelodd y gwasanaeth eiriolaeth stelcio cenedlaethol, Paladin, gynnydd o bron i 50 y cant mewn atgyfeiriadau stelcio pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud. I’r rhai a oedd yn dioddef stelcio cyn dechrau’r cyfyngiadau symud, cadarnhaodd bron i hanner yr ymatebwyr i arolwg gynnydd mewn patrymau ymddygiad ar-lein, a gwelodd traean ohonynt gynnydd mewn patrymau ymddygiad all-lein. Awgrymodd llawer o ymatebwyr fod y ffaith bod eu stelciwr wedi’i ynysu ac wedi diflasu yn ystod y cyfyngiadau symud yn golygu nad oedd ganddynt ddim byd arall i feddwl amdano ar wahân i’w hobsesiwn. Ar yr un pryd, nid yw nifer yr arestiadau wedi cadw i fyny â nifer y troseddau, gan mai dim ond ar hanner cyfradd y cynnydd mewn troseddau rhwng 2019 a 2020 y cynyddodd nifer yr arestiadau.

"Bydd bron i hanner y stelcwyr, wrth wneud bygythiad, yn gweithredu arno, yn enwedig pan fydd yr unigolyn y maent yn eu stelcio yn gwybod pwy ydynt. Yn wir, unwaith eto mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh wedi adrodd bod naw o bob 10 o lofruddiaethau menywod a ddadansoddwyd dros gyfnod o dair blynedd wedi canfod bod y llofrudd yn arddangos patrymau ymddygiad a gysylltir â stelcio. Rhaid inni weithredu ar stelcio, nid yn unig oherwydd yr effaith enfawr y mae’n ei chael ar oroeswyr, ond oherwydd y bygythiad y mae’n ei greu i fywyd a’r effaith ar deuluoedd a ffrindiau’r rhai a lofruddiwyd. Mae gormod o farwolaethau wedi bod a rhy ychydig o weithredu, trafodaeth ac addysg ynglŷn â hyn. Er mwyn yr holl ddioddefwyr, rhaid inni weithredu ar y mater difrifol hwn."

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-02-08 01:19:37 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd