Llefarydd Plaid Cymru Heledd Fychan yn ymateb i adroddiad ‘ysgytwol’ i S4C
Mae angen i adroddiad ‘ysgytwol’ i mewn i honiadau o fwlio o fewn S4C fod yn ‘drobwynt’ i’r sianel meddai Plaid Cymru.
Cafodd yr adroddiad gan gwmni cyfreithwyr Capital Law ar yr amgylchedd o fewn S4C ei gyhoeddi heddiw.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant Heledd Fychan AS fod pobl Cymru yn ‘haeddu sicrwydd’ bod y sianel yn cymryd eu rôl unigryw fel darlledwr cyhoeddus ‘o ddifri’.
Talodd deyrnged i’r staff a ‘siaradodd yn erbyn ymddygiad gwael’ a hynny o dan amgylchiadau anodd.
Meddai llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant Heledd Fychan AS,
“Mae'r adroddiad hwn yn ysgytwol ac angen bod yn drobwynt i’r sianel.
“Hoffwn ganmol staff S4C a siaradodd yn erbyn ymddygiad gwael o dan amgylchiadau eithriadol o anodd.
“Mae S4C yn sefydliad cenedlaethol sy’n rhan annatod o’n diwylliant a’n heconomi greadigol Cymru, ac rydym yn haeddu sicrwydd bod y sianel yn cymryd eu rôl unigryw fel darlledwr cyhoeddus o ddifri.
“Edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag S4C yn ystod craffu seneddol yn y Senedd ac yn San Steffan i geisio sicrwydd bod y camau priodol yn cael eu cymryd i adfer hyder yn ein sianel.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter