Ymateb i'r gwrthdaro yn Gaza ac Israel

Rwy'n siŵr eich bod chi fel fi wedi cael eich effeithio gan y lluniau sy'n dod allan o Israel a Gaza dros yr wythnosau diwethaf. Mae'r gwrthdaro parhaus wedi arwain at ddioddefaint aruthrol a cholli bywyd ar y ddwy ochr.

Mewn ymateb i’r digwyddiadau trasig hyn, rwyf i, ynghyd â’m cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru, wedi arwain y galwadau yn y Senedd am gadoediad ar unwaith, ac am ryddhau gwystlon. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â’r trais hwn i ben a dod o hyd i ateb heddychlon. Er y gall y gwrthdaro ymddangos yn bell i ffwrdd, dros y mis diwethaf, rwyf wedi clywed straeon torcalonnus gan drigolion sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y gwrthdaro hwn. Mae eu straeon am golled a thrawma wedi fy nghyffwrdd yn ddwfn ac yn fy atgoffa o bwysigrwydd cyd-sefyll gyda phawb sy’n dioddef.

 

Ers dechrau’r gwrthdaro, rwyf wedi mynychu nifer o wylnosau yn galw am gadoediad, ac rwyf wedi cael cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o’r cymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghanol De Cymru.

 

Rhaid inni barhau i godi ein lleisiau a chefnogi ymdrechion i ddod o hyd i ateb heddychlon i'r gwrthdaro dinistriol hwn


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-01-10 10:53:25 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd