Wrth i'r gaeaf agosáu, mae llawer o aelwydydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw uchel. Mae llawer yn ei chael hi’n anodd fforddio’r hanfodion, gyda rhentwyr, pobl ag anableddau, teuluoedd â phlant o dan 18 oed, a’r rhai sy’n dibynnu ar fudd-daliadau yn cael eu taro’r galetaf.
Yn ddiweddar cynhaliais fy mhumed digwyddiad rhwydweithio costau byw. Diolch yn fawr iawn i'r holl sefydliadau a grwpiau cymunedol a fynychodd ac yn enwedig y siaradwyr o Fanc Bwyd Pontypridd a Chyngor Glan yr Afon a Rheoli Arian Cymru a’r Siop Rhannu Cymunedol.
Rwyf bob amser yn gadael y digwyddiadau hyn wedi fy ysbrydoli gan y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan gynifer o sefydliadau ac unigolion yn ein cymunedau, ond hefyd yn grac oherwydd y diffyg ewyllys a gweithredu gwleidyddol i wella bywydau pobl. Rwy’n benderfynol o barhau i frwydro dros gyfiawnder i bawb.
Bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Chwefror, felly os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch. Os ydych yn byw yng Nghanol De Cymru ac angen cymorth ar mater hwn neu unrhywbeth arall, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bost: [email protected] neu drwy ffonio fy swyddfa ar 01443 853214. Rwyf bob amser yn hapus i helpu, felly peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter