Cabinet Cyngor RhCT yn cymeradwyo cynlluniau sydd yn peryglu dyfodol addysg Gymraeg yng ngogledd Pontypridd

 

Ddydd Mercher 22 Mehefin 2022, pleidleisiodd Cabinet Llafur Cyngor Rhondda Cynon Taf yn unfrydol o blaid cynigion i greu ysgol cyfrwng Saesneg newydd yng Nglyncoch.

Bydd yr ysgol, sydd i fod i gael ei hadeiladu ar safle hen ysgol Tŷ Gwyn, yn dilyn uno ysgolion cynradd Cefn a Chraig yr Hesg. Yn yr adroddiad sy’n argymell y cynnig nodwyd y byddai’r ysgol newydd hon yn “cynyddu capasiti ac yn gwella ansawdd y ddarpariaeth addysg gynradd cyfrwng Saesneg sydd ar gael i ddysgwyr yng Nglyncoch.”

Daw hyn yn dilyn penderfyniad blaenorol y Cyngor Llafur i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton yng Nghilfynydd, gan olygu y bydd disgyblion o ardaloedd Ynysybwl, Coed-y-cwm, Glyncoch, Trallwn a Chilfynydd yn gorfod teithio ymhellach i dderbyn cyfrwng Cymraeg. Addysg. Roedd ymgyrchwyr ar y pryd wedi gofyn i'r Cyngor adeiladu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd neu o leiaf ysgol ddwy ffrwd ar hen safle ysgol Tŷ Gwyn, a dywedwyd wrthynt nad oedd gan y Cyngor unrhyw gynlluniau ar gyfer ysgol ar y safle hwnnw.

Gwnaeth y Cynghorydd Amanda Ellis, un o ddau o Gynghorwyr Plaid Cymru sy’n cynrychioli Ynysybwl a’r Cynghorydd Hywel Gronow, Cynghorydd Plaid Cymru dros Gilfynydd, gynrychiolaethau i’r Cabinet yn gofyn i’r Cyngor ymgorffori ffrwd cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol newydd. Nododd y ddau bryderon eu cymunedau y byddai ysgol cyfrwng Saesneg newydd yn denu disgyblion sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, drwy fod o fewn pellter cerdded neu o leiaf un siwrnai fws o gymunedau cyfagos yn wahanol i’r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf.

Mae Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, hefyd wedi codi pryderon sylweddol am yr effaith y bydd y penderfyniad hwn yn ei gael ar gydraddoldeb mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion sy’n byw yng ngogledd Pontypridd. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, yn gofyn iddo ymyrryd gan fod 81% o gostau’r ysgol newydd i gael eu talu gan Lywodraeth Cymru.

Wrth siarad yn dilyn y penderfyniad, dywedodd:

“Rwyf wedi fy siomi a fy nhristau gan y penderfyniad hwn, a’r ffaith bod y Cabinet Llafur wedi gwrthod hyd yn oed ystyried cyflwyno ffrwd Gymraeg yn yr ysgol newydd hon. Heb os, bydd hyn yn cael effaith andwyol ar addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, gan na fydd yn darparu mynediad cyfartal i addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

“Yn eu hadroddiad, dywed y Cyngor y bydd hyn yn cynyddu capasiti addysg cyfrwng Saesneg. O ble fydd y disgyblion hyn yn dod os nad o addysg cyfrwng Cymraeg?

“Os yw’r Cyngor Llafur a Llywodraeth Lafur Cymru ill dau wedi ymrwymo i darged Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yna pam felly maen nhw’n bwrw ymlaen – ac yn ariannu – cynlluniau fydd yn rhwystro hyn?

“Mae’r penderfyniad hwn yn rhwbio halen yn y briw i ymgyrchwyr sydd wedi gofyn dro ar ol tro am gefnogaeth y Cyngor i sicrhau mynediad teg i addysg cyfrwng Cymraeg yn y cymunedau hyn. Rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd cyn i’r penderfyniad niweidiol hwn gael ei weithreu.”

 

 

Gellir darllen yr adroddiad sy’n argymell y cynnig hwn yma: Amalgamation of Cefn and Craig yr Hesg.pdf (moderngov.co.uk)


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-06-27 14:53:58 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd