Mae Plaid Cymru wedi galw ar HSBC i wrthdroi eu penderfyniad i ddiddymu'r gwasanaeth ffôn iaith Gymraeg.
Rhoddwyd gwybod i wleidyddion am benderfyniad y banc trwy lythyr ar fore Mercher, 8 Tachwedd.
Wrth ymateb i’r penderfyniad, cyflwynodd Plaid Cymru cwestiwn brys i Lywodraeth Cymru yn y Senedd, cysylltu ar frys â Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg, a hefyd galw am gyfarfod brys gyda HSBC yn San Steffan.
Yn ymateb, dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg, Heledd Fychan AS:
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, Heledd Fychan AS, a llefarydd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan, Ben Lake AS:
“Mae’n siom enfawr i glywed am benderfyniad HSBC i ddiddymu eu gwasanaeth Iaith Gymraeg dros y ffôn sydd, i nifer fawr o’u cwsmeriaid, yn adnodd hollbwysig.
“Rydym yn gweld nifer fawr o’u canghennau yn cau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gwasanaethau arian parod yn cael eu cyfyngu, a nawr y gwasanaeth Iaith Gymraeg yma yn cael ei ddiddymu.
“Mae nifer o gwsmeriaid yn defnyddio HSBC oherwydd eu gwasanaeth Cymraeg, ac mae’n wir i ddweud nad yw’r banc wedi gwneud digon i’w hyrwyddo. Mae hyn yn ergyd enfawr i’w cwsmeriaid yng Nghymru yn enwedig eu cwsmeriaid hŷn, a’r rhai sydd ddim â mynediad i dechnoleg ddigidol.
“Mae addewid y banc i 'drefnu galwad yn ôl yn Gymraeg, o fewn 3 diwrnod gwaith' nid yn unig yn ansensitif i'r pwysau ariannol y bydd rhai pobl yn eu hwynebu, ond hyn yn beryglus. I lawer, nid ‘dewis’ yw cael mynediad i'w banc trwy’r Gymraeg - mae'n anghenraid. Maen nhw'n dweud eu bod nhw ‘wedi cadarnhau bod pob cwsmer yn gallu bancio yn Saesneg.’ Nid yw hyn yn wir.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter