Mae Plaid Cymru wedi ymateb i'r canlyniadau PISA diweddaraf a ryddhawyd heddiw, sy'n dangos y canlyniadau gwaethaf yng Nghymru ers iddynt gymryd rhan yn PISA am y tro cyntaf yn 2006. Cymru hefyd oedd y wlad ddatganoledig a sgoriodd isaf yn y DU ar gyfer y tri maes, sef Mathemateg, Gwyddoniaeth a Darllen.
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu'r modd y delir â chyfraddau tlodi plant yng Nghymru gan ddweud bod hyn yn anochel wedi cyfrannu at y canlyniadau, ac arwain at absenoldeb uchel yn ysgolion Cymru.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Heledd Fychan AS:
"Dylai canlyniadau PISA a gyhoeddwyd heddiw ysgogi gweithredu gan Llywodraeth Cymru.
"Mae gormod o bobl ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi, mae absenoldebau disgyblion yn annerbyniol o uchel ac mae llawer o ysgolion yn wynebu bwlch sylweddol yn eu cyllidebau. Er gwaethaf gwaith caled ac ymroddiad gweithlu sydd dan bwysau arthuthrol, mae bwlch cyrhaeddiad disgyblion yn ehangu ac ni allwn anwybyddu'r cysylltiad rhwng tlodi a chanlyniadau siomedig heddiw.
"Dylai pob plentyn, waeth beth yw ei gefndir neu ei chefndir, gael cyfle cyfartal i lwyddo mewn bywyd.
"Mae angen mwy na geiriau gwag ac esgusodion gan y Gweinidog Addysg mewn ymateb i'r canlyniadau hyn. Roedd gan Gymru argyfwng recriwtio yn y sector addysg cyn Covid, a methodd Gweinidogion fynd i’r afael a hyn. Bydd parhau i wneud toriadau i gyllidebau addysg yn gwneud dim o ran gwella canlyniadau PISA yn y dyfodol.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter