Dw i wedi ymgyrchu’n frwd i sicrhau cefnogaeth i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ers cael fy ethol yn Aelod o’r Senedd. Mae’r pwysau gwleidyddol gen i a grŵp Plaid Cymru yn y Senedd wedi llwyddo i ennill llawer o gonsesiynau a mwy o gefnogaeth ariannol i gynlluniau llifogydd ledled Cymru.
Fel y gwyddoch efallai, cynhaliodd tîm llifogydd RhCT, ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, ddigwyddiad deuddydd yng Nghanolfan Pentre yr wythnos diwethaf i drafod y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma, ac i edrych ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Mae Pentre wedi’i enwi fel yr ardal sydd fwyaf mewn perygl o lifogydd dŵr o’r tir yng Nghymru, ac mae’r cynllun sydd wedi’i argymell gan y tîm draenio yn gobeithio lliniaru unrhyw lifogydd yn y dyfodol. Dw i am wneud yn siŵr bod unrhyw gynllun yn ystyried y gallai digwyddiadau yn y dyfodol fod yn waeth o bosibl na Storm Dennis, a achosodd gymaint o ddinistr ym Mhentre.
Mynychodd aelod o fy nhîm y digwyddiad yr wythnos diwethaf a chael trafodaeth hir gyda swyddogion o RhCT a CNC. Y cynllun, ynghyd ag uwchraddio pellach i'r system bresennol, yw creu system newydd a fyddai'n gweld uchraddio a dad-gyfeirio cwlfert presennol, ac yna creu cwlfert newydd a gosod pibell storom newydd a fyddai'n rhedeg o ochr y mynydd i lawr drwy'r pentref ac i'r afon. Rwy’n croesawu’r datblygiad arfaethedig hwn yn fawr, ond yn ailadrodd eto fod angen iddo fod yn addas ar gyfer digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol. Allwn ni ddim llaesu dwylo ar hwn nawr.
Byddai'r cynllun yn cymryd o leiaf dwy flynedd i'w gwblhau, ond gallai gymryd mwy o amser. Byddai'r flwyddyn gyntaf o waith yn golygu bod angen symud yr holl gyfleustodau sydd ar hyn o bryd o dan y ddaear ar hyd llwybr dewisol y bibell newydd i un ochr, ac yna yn yr ail flwyddyn byddai'r ffos yn cael ei chloddio i osod y bibell newydd. Mae hon yn rhaglen uchelgeisiol iawn a fydd yn gofyn i'r holl gyfleustodau a'r Cyngor weithio mewn cytgord er lles y gymuned.
Os na lwyddoch i gyrraedd un o’r sesiynau yr wythnos diwethaf, mae gennych amser o hyd i edrych ar y cynllun ar-lein, ac mae gennych hyd at yr 17eg o’r mis i ymateb i gynlluniau RhCT.
Cliciwch YMA i weld yr ymgynghoriad a'r holl gynlluniau posibl.
Os ydych yn poeni am unrhyw un o fanylion y cynllun, mae croeso i chi gysylltu â'm swyddfa i drafod pethau.
Mae CNC yn bwriadu ailblannu ardaloedd yr oeddent wedi’u clirio â choed brodorol, gan greu ardal goetir. Bydd llawer o fanteision i hyn, ond cyn belled ag y mae llifogydd yn y cwestiwn bydd yn caniatáu i'r coed gymryd llawer o'r dŵr o ochr y mynydd.
Nid oes un ohonom am weld y golygfeydd a welsom yn 2020 yn cael eu hailadrodd, a dw i’n mawr obeithio y bydd y gwaith hwn yn helpu i ddiogelu cartrefi a busnesau yn y dyfodol.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter