Dyma grynodeb o fy ngwaith yn y Senedd ac ar draws y rhanbarth dros yr wythnos ddiwethaf:
Dydd Mawrth a Dydd Mercher yn y Senedd:
- Gofynnais am ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch ymateb sefydliadau o fewn ei phortffolio i'r toriadau yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru. Mae llawer o sefydliadau eisoes wedi cychwyn cynlluniau diswyddo gwirfoddol, ac mae disgwyl bydd diswyddiadau gorfodol. Yn barod, mae rhai sefydliadau, fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi newid y telerau a'r amodau ar gyfer diswyddiadau gwirfoddol a gorfodol heb bron dim ymgynghori. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio fwyaf ar bobl ifanc ac unigolion sydd wedi cymryd seibiant gyrfa, yn enwedig menywod sydd wedi cael teuluoedd.
- Ymatebais i'r Datganiad Addysg ar Gymwysterau Galwedigaethol, gan bwysleisio'r angen am strategaeth a pholisïau cynhwysfawr ar gyfer addysg ôl-16, nid addysg galwedigaethol mewn seilo. Fe wnes i godi pryderon am benderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri bron i 25% o'r gyllideb prentisiaethau. Darllenwch fy ymateb llawn yma.
- Ymatebais i Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025, gan fynegi pryderon am y toriadau i'r gyllideb addysg a gostyngiadau sylweddol mewn cyllid diwylliant a chelfyddydau. Gallwch ddarllen fy nghyfraniad llawn yma.
- Cymerais ran yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Brentisiaethau yn y Senedd fel rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024, lle cafwyd trafodaethau adeiladol am effaith gostyngiadau yn y gyllideb a'r angen am well cefnogaeth ariannol i brentisiaid.
- Roeddwn i yn y balot Cwestiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan obeithio gofyn pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gofal plant i godi cyflogau staff yn unol â'r isafswm cyflog newydd. Yn anffodus, daeth amser i ben cyn y gellid ateb fy nghwestiwn yn y siambr. Fodd bynnag, rwyf wedi derbyn ymateb ysgrifenedig y gallwch ei ddarllen yma.
- Codi cwestiwn amserol am effaith cynyddu capiau ffioedd dysgu a thorri grantiau cymorth ôl-raddedig ar nifer y myfyrwyr sy'n debygol o wneud cais i astudio ym Mhrifysgolion Cymru. Gallwch ddarllen fy nghwestiwn a'r ateb yma.
- Siaradais yn nadl Plaid Cymru ar y GIG, ble wnaethom annog Llywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng iechyd. Tynnais sylw i’r heriau a wynebir gan gleifion wrth gael gafael ar feddyginiaeth ac apwyntiadau yn fy rhanbarth. Darllenwch fy nghyfraniad llawn yma.
Trwy gydol yr wythnos, cefais gyfle i gwrdd â gwahanol sefydliadau a grwpiau yn y Senedd i drafod ymgyrchoedd a materion polisi amrywiol. Roedd hyn yn cynnwys cwrdd gyda sefydliadau fel Cancer Research UK, Colegau Cymru, Cats Protection (i drafod microsglodynnu gorfodol i gathod), a grwpiau hawliau anifeiliaid sydd yn ymgyrchu i roi terfyn ar rasio milgwn yng Nghymru. Roedd hefyd yn wych cael croesawu Cyngor Ysgol a Chyngor Eco Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn i'r Senedd.
Drwy gydol yr wythnos, cyfarfûm â nifer o etholwyr yn ymwneud â gwaith achos, sydd wrth gwrs yn gyfrinachol ei natur ond sy’n rhan allweddol o fy swydd, ac sy’n helpu i lunio fy ngwaith ac ymgyrchu. Cefais hefyd noson ddifyr dros ben gyda Cylch Cinio Merched Caerdydd yn trafod fy ngwaith yn y Senedd, a pam bod angen mwy o ferched mewn gwleidyddiad.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter