Dyma grynodeb o fy wythnos yn y Senedd ac ar draws y rhanbarth yr wythnos hon.
Ddydd Llun, fe wnes i ddal i fyny â gohebiaeth, cwrdd â’r tîm i gynllunio ein gwaith, paratoi ar gyfer yr wythnos i ddod yn y Senedd a chwrdd â Hugh Russell, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru.
Roedd dydd Mawrth a dydd Mercher yn ddiwrnodau prysur yn y Senedd, ac yn cynnwys:
Gofyn cwestiwn i’r Prif Weinidog am gymorth i unigolion sy’n wynebu digartrefedd yng Nghanol De Cymru. Codais fy mhryderon am unigolion bregus yn cael eu cartrefu yn hen adeilad Toys R US ym Mae Caerdydd fel llety dros dro.
Gofynnais hefyd am ddatganiad yn dilyn darn ymchwiliol a gyhoeddwyd gan The Sunday Times ynghylch arian ar gyfer sicrhau lle mewn prifysgolion. Datgelwyd bod Prifysgol Caerdydd, ymhlith eraill, yn recriwtio myfyrwyr tramor gyda graddau llawer is na’r hyn y byddem yn ei ddisgwyl gan fyfyrwyr o Gymru. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr lleol yn colli allan ar gyrsiau hanfodol sy’n cyfrannu at economi Cymru.
Cymerais ran mewn dadl gan y llywodraeth ar Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg, lle gwrthododd Llywodraeth Llafur Cymru gynnig Plaid Cymru i gyflwyno safonau iaith Gymraeg statudol yn y sector bancio. Dylai’r Gymraeg fod yn hygyrch i bawb, yn enwedig pan ddaw’n fater o gyrchu gwasanaethau hanfodol fel bancio.
Ymatebais i egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a’r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) sy’n nodi egwyddorion cyffredinol y Bil sy’n edrych ar ddiwygio’r Senedd. Cefais fy nghyfweld hefyd ar gyfer Radio Wales a Radio Cymru ar y mater.
Siaradais yn y ddadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Y tu ôl i'r llenni: Gweithlu'r diwydiannau creadigol.' Roedd yn drafodaeth dreiddgar am yr heriau a’r cyfleoedd yn y diwydiannau creadigol.
Siaradais hefyd yn y ddadl ac ymunais gyda aelodau i alw ar Lywodraeth y DU i gynnwys gemau rygbi chwe gwlad Cymru yn y categori am ddim i’r awyr at ddibenion darlledu.
Ddydd Mawrth a dydd Mercher, cyfarfûm hefyd â sawl sefydliad yn y Senedd i drafod amrywiol ymgyrchoedd a materion polisi. Mynychais ddiweddariad defnyddiol gan y Sefydliad Bevan am yr anfanteision yn y system gofal plant bresennol, a hefyd darlith ysbrydoledig gan Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, am ddyfodol Cymru fel gwlad annibynnol. Cyfarfûm hefyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, NSPCC, a chael fy ail-ethol yn Is-Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y PCS, a siarad yn nigwyddiad Equal Power Equal Voice.
Yn fy rôl fel llefarydd Plaid Cymru dros blant a phobl ifanc, rwy’n eistedd ar bwyllgor craffu perthnasol y Senedd, a dydd Iau, clywsom dystiolaeth am y Bil Addysg Breswyl yn yr Awyr Agored. Nod y bil hwn yw darparu wythnos o addysg awyr agored breswyl i bob plentyn yng Nghymru yn ystod eu bywyd ysgol. Buom hefyd yn trafod materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, ac effaith y gyllideb ddrafft ar blant a phobl ifanc.
Ddydd Gwener, cyfarfûm ag Age Cymru i drafod hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus i bobl hŷn. Mae cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus wedi dod yn fwyfwy heriol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae toriadau i wasanaethau bysiau wedi cael effaith negyddol ar allu pobl hŷn i gael mynediad at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd a chymorth cymunedol. Mae hyn hefyd yn cyfrannu at arwahanrwydd ac unigrwydd. Mae'n hollbwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio arnynt. Cyfarfûm hefyd â Maria a Sheena i drafod yr angen am ganolfan achub neu loches cathod yn y Rhondda.
Drwy gydol yr wythnos, cyfarfûm â nifer o etholwyr yn ymwneud â gwaith achos, sydd wrth gwrs yn gyfrinachol ei natur ond sy’n rhan allweddol o fy swydd, ac sy’n helpu i lunio fy ngwaith ac ymgyrchu.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter