Buddsoddi mewn Chwaraeon Cymunedol: Cyfarfod Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd Chwaraeon Cymru

Cefais y pleser o gyfarfod â Phrif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd Chwaraeon Cymru yn y Senedd yr wythnos hon. Roedd yn gyfle cyffrous i drafod dyfodol chwaraeon cymunedol a'r buddsoddiadau sy'n cael eu rhoi i'w gefnogi.

Roedd yn wych clywed am y buddsoddiad o £885,182 gan Gronfa Cymru Actif ar gyfer y cyfnod 2022-23, sydd wedi bod o fudd i glybiau chwaraeon cymunedol yng Nghanol De Cymru. Mae’r cyllid sylweddol hwn yn cael effaith gadarnhaol ar fentrau chwaraeon yn y rhanbarth.

Yn ystod ein sgwrs, roeddwn wrth fy modd yn dysgu am y gwaith eithriadol sy'n cael ei wneud gan WISP Judo Cymru. Mae'r clwb hwn yn dod â phlant o addysg prif ffrwd ynghyd a'r rhai ag ystod o anableddau dysgu, gan gynnwys awtistiaeth a Syndrom Down. Cawsant £1,040 y llynedd i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gallu parhau i elwa ar gyrsiau hyfforddi angenrheidiol. Mae'r cyllid hwn, a ddarperir drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, yn dangos eu hymrwymiad i gefnogi clybiau a sefydliadau chwaraeon nid-er-elw.

Edrychaf ymlaen at dderbyn eu cynnig o gyfarfod â rhai o grwpiau yn y rhanbarth i weld sut mae'r buddsoddiad hwn wedi gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-10-02 09:12:49 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd