Heledd Fychan AS yn ymweld â thrigolion yn abercwmboi i drafod effaith llifogydd yn yr ardal

Mae trigolion Abercwmboi wedi cysylltu gyda mi wedi iddynt dderbyn pecyn llifogydd gennyf. Mae nhw dal yn poeni’n fawr am y systemau sydd yna i ddelio gyda llifoedd mawr o ddwr fel digwyddodd adeg Storm Dennis yn 2020. 

Mae’r cyngor wedi gwneud tipyn o waith i’r cwlfertau wnaeth blocio bryd hynny, ac mae asiantaethau eraill wedi gweithio i glirio blynyddoedd o faw oedd wedi casglu yn y pibau. 

Un peth sydd hen ei daclo yw’r llyn ar hen dir y ffwrneisi. Mae lefel y silt sydd wedi adeiladu yn y llyn yn golygu bod lot llai o gapasiti yna i ddelio gyda llifogydd. Mae nhw eisiau gweld y llyn yn cael ei garthu fel y bydden nhw’n gallu cysgu’r nos. Hefyd, mae’r cwlfert ar ochr pella’r llyn yn llawn sbwriel ac mae’r bariau metel yna yn hen ac wedi torri ac angen eu hadnewyddu. Byddaf yn gweithio gyda trigolion i sicrhau bod eu profiadau yn bwydo mewn i’r adolygiad llifogydd, a hefyd i geisio cael perchnogion y llyn i weithredu.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-09-14 10:23:44 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd