HELEDD FYCHAN AS Ymweld â RE: Make it Valleys

Roedd yn wych cyfarfod â Nova a’r tîm yn RE:MAKE Valleys ddydd Gwener diwethaf ac ymweld â’u siop dim gwastraff a gofod cymunedol yn Maerdy.

Mae eu Llyfrgell o Bethau yn ychwanegiad gwych i'r gymuned lle gall y gymuned fenthyg offer ar gyfer prosiectau DIY, rhoi cynnig ar hobïau newydd, a hyd yn oed tacluso eu gardd. Mae ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer cynnal parti neu gael noson ffilm, i gyd am gost fach iawn. 

Mae'r gwasanaeth atgyweirio yn wych hefyd! Mae gwirfoddolwyr medrus yn helpu i drwsio eitemau cartref a dillad sydd wedi torri am ddim. Dewch â'r rhannau sydd eu hangen i'w hatgyweirio, a byddant yn helpu gyda'r gweddill. Mae'r siop dim gwastraff yn cynnig ystod eang o fwyd sych, ffres ac wedi'i rewi, yn ogystal â hanfodion y cartref, i gyd yn ddi-becyn. Rydych chi'n dod â'ch cynwysyddion eich hun ac yn prynu'n union yr hyn sydd ei angen arnoch chi. Os ydych yn yr ardal, aewch i ymweld. Dylai fod gan bob cymuned ofod a phrosiect tebyg!


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-12-19 09:53:32 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd