Heledd Fychan AS yn ymweld â Mothers Matter i drafod cefnogaeth I menywod a'u teuluoedd

Cefais ymweliad diddorol ac addysgiadol i Mothers Matter yn Nhonypandy yn ddiweddar. Maent yn gwneud gwaith ysbrydoledig yn darparu cefnogaeth hanfodol i fenywod, dynion a theuluoedd yn ystod eu profiadau cyn-enedigol ac ôl-enedigol.

Mae'r hwb yn Nhonypandy yn groesawgar, ac yn cynnig nifer o wasanaethau am ddim i deuluoedd yn RhCT.  Mae yn gallu rhoi cymorth cartref yn y gymuned ac mae ganddynt grwpiau a dosbarthiadau addysgol, fel y gall pobl gael cymorth unigol neu mewn grŵp.


Mae Mothers Matter yn ymroddedig i fynd i'r afael yn rhagweithiol â heriau iechyd meddwl amenedigol ymhlith rhieni newydd. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael amser anodd, peidiwch ag oedi cyn estyn allan. Mae Katy a'i thîm anhygoel bob amser yn barod i helpu.

Ewch i gwefan mothers matter am ragor o wybodaeth: https://www.mothersmattercic.co.uk/

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-01-16 11:34:12 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd