Ydych chi'n rhiant gyda phlant 3-19 oed yn mynychu ysgol neu goleg yn RhCT, neu ydych chi'n ddysgwr eich hun?
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig newidiadau i'r pellter cymwys ar gyfer trafnidiaeth ysgol am ddim. Gallai hyn olygu na fydd tua 2,700 o ddisgyblion yn RhCT bellach yn gymwys i gael trafnidiaeth am ddim i'r ysgol.
Bydd rhaid i blant oed ysgol gynradd sy’n byw llai na dwy filltir i ffwrdd o’r ysgol a phlant oed ysgol uwchradd sy’n byw llai na thair milltir i ffwrdd o’r ysgol, boed yn ysgol cyfrwng Cymraeg, ysgol cyfrwng Saesneg neu ysgol ffydd, wneud eu ffordd eu hunain i'r ysgol ac ni fyddant yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim. Fydd dim modd prynu tocyn bws chwaith i deithio ar y bws maen nhw'n mynd arno nawr. Yn gywilyddus y rhai fydd yn colli allan fwyaf yn y sector cynradd yw plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd. Darllenwch fy ymateb llawn i'r ymgynghoriad isod.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter