Mae Bute Energy am geisio adeiladu Parc Ynni o'r enw Twyn Hywel ar y ffin rhwng Caerffili a Rhondda Cynon Tâf. Y cynnig yw gosod 14 o dyrbinau 200m o uchder ar hyd mynydd Eglwysilan a Llanfabon, uwchben Cilfynydd a lawr i gyfeiriad Senghennydd.
Mae llawer o drigolion wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon a’u gofidiau am y datblygiadau arfaethedig felly rwyf wedi cyflwyno’r rhain mewn ymateb i gorff Llywodraeth Cymru, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) heddiw. Gallwch ddarllen hwn yma. Os hoffech chi ddweud eich dweud am y cynlluniau, fe welwch nhw yma. I ddanfon eich ymateb cysylltwch â:[email protected]
I ddarllen fy ymateb llawn i’r ymgynghoriad edrychwch ar y llythyr isod:
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter