Yn ddiweddar cefais y cyfle i ymweld a siarad â’r grŵp cymorth cymdeithasol Friends R Us Aberdâr. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd ar ail ddydd Llun pob mis, ac eithrio Ionawr, rhwng 7 a 9pm yn Neuadd Ambiwlans Sant Ioan, Aberdâr ac mae’n agored i bawb sydd wedi dioddef o salwch iechyd meddwl neu sy’n adnabod unrhyw un sydd wedi, neu wedi bod neu yn ofalwr.
Fe’i sefydlwyd gan Geraint Price a Meinir Williams yn dilyn marwolaeth sydyn mab Geraint, a brawd Meinir, Emyr, o ganlyniad i’w salwch meddwl yn Ebrill 2002.
Heb os, mae’r grŵp yn cynnig llawer iawn o gefnogaeth i’r rhai sy’n mynychu, ac o ganlyniad, dyfarnwyd Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol iddynt yn 2022 ar ôl 20 mlynedd o wasanaethu’r gymuned. Mae eu teithiau hefyd yn cael eu hariannu’n flynyddol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac roedd cyffro mawr pan ymwelais am daith i Longleat.
Cawsom drafodaeth wych awr am awr, gyda digon o faterion i mi eu codi pan fydd y Senedd yn dechrau cyfarfod eto ym mis Medi. I ddarganfod mwy am y grŵp, ewch i Friends R Us ar Facebook
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter