Heledd Fychan AS yn ymuno â Sustrans i grwydro llwybrau teithio llesol yng Nghanol De Cymru

Heddiw, ymunais â Joe o Sustrans Cymru yn ystod yr Wythnos Fawr Werdd i grwydro un o'r nifer o lwybrau teithio llesol yn fy ardal. Ar ôl ymweld ag un o'r llwybrau lleol, mae’n glir bod angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol feddwl yn fwy creadigol ynglyn a sut maen nhw'n mynd i'r afael â chynlluniau teithio llesol.

Mae dirfawr angen atgyweirio nifer o'r llwybrau yn fy rhanbarth, a buddsoddi ynddynt. Pe bai'r llywodraeth yn ymrwymo i greu llwybrau mwy cynhwysol a diogel ar draws y rhanbarth bydda’i cynydd yn y nifer o bobl fyddai’n gallu elwa o fanteision teithio llesol.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-10-05 14:53:35 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd