Mae'r argyfwng costau byw ymhell o fod drosodd gyda miloedd o bobl yng Nghanol De Cymru yn cael trafferth i dalu eu costau cartref hanfodol.
Mis nesaf byddaf yn cynnal fy mhumed digwyddiad costau byw ac unwaith eto rwy’n gwahodd sefydliadau o ar draws y rhanbarth i ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau o sut mae’r argyfwng yn taro’r rhai y maent yn eu cefnogi, a pha effaith y mae hyn yn ei chael ar allu eu sefydliadau i ddarparu’r cymorth hwn. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i sefydliadau siarad yn uniongyrchol â’i gilydd am effaith yr argyfwng y maent yn ei weld yn ein cymunedau, sut y maent yn ymateb, eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a pha gymorth y gallent fod ei angen.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu os hoffech fynychu’r digwyddiad cliciwch ar y ddolen isod.
https://www.heleddfychan.wales/cost_of_living_networking_event_23_february
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter