Heledd Fychan AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mynediad i gynnyrch mislif am ddim yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith

Bydd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, heddiw yn arwain dadl yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i sicrhau bod pawb sydd angen cynnyrch mislif am ddim yn gallu cael gafael arnynt, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Ym mis Awst, daeth y Ddeddf Cynhyrchion Mislif (Darpariaeth Rhad ac Am Ddim) i rym yn yr Alban gan ei gwneud y wlad gyntaf yn y byd i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gynhyrchion mislif fod ar gael am ddim mewn adeiladau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion ledled yr Alban.

Mae Tlodi Mislif – yr anallu i allu fforddio cynhyrchion mislif – wedi effeithio ar o leiaf 15% o ferched Cymru rhwng 14 a 21 oed ar ryw adeg yn ôl Plan UK yn 2021. Gyda’r argyfwng costau byw yn effeithio’n gynyddol ar bobl ledled Cymru, mae tystiolaeth gan fanciau bwyd a sefydliadau eraill yn awgrymu bod y broblem yn gwaethygu.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu nifer o fentrau dros y blynyddoedd diwethaf, a hefyd wedi datblygu Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif, nid yw hon yn weledigaeth na hawl sydd wedi’u hymgorffori yn y gyfraith. Mae Ms Fychan yn credu bod deddf o'r fath yn hanfodol i normaleiddio mislif a sicrhau urddas mislif i bawb yng Nghymru.

Wrth siarad cyn y ddadl, dywedodd Ms Fychan: “Mae mislif yn weithred gorfforol hollol normal, ac nid yw’n iawn bod rhai pobl yng Nghymru yn dal i gael eu hamddifadu o’u hurddas oherwydd na allant fforddio’r cynhyrchion hanfodol hyn.

“Er bod gwelliannau wedi’u gwneud i sicrhau bod cynhyrchion mislif rhad ac am ddim ar gael yn ehangach yng Nghymru, mae gormod o rwystrau o hyd gyda nifer sydd eu hangen dal i fethu cael gafael arnynt. Drwy ymgorffori’r hawl hyn yn y gyfraith, a’i wneud yn ofyniad cyfreithiol, byddem yn gwneud yn siŵr bod pawb sydd eu hangen yn gallu cael gafael ar gynhyrchion mislif am ddim. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chydraddoldeb, yna mae hwn yn gam angenrheidiol a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn esiampl yr Alban fel mater o frys.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-11-09 12:11:28 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd