Heledd Fychan AS yn galw am weithredu brys ar wasanaethau rheilffyrdd Cymru

Mewn ymateb i’r problemau parhaus gyda gwasanaethau rheilffyrdd Cymru, cynhaliodd Plaid Cymru ddadl hollbwysig yn y Senedd Dydd Mercher (25 Hydref) , gan annog llywodraeth Cymru yn daer i weithredu ar frys. Er gwaethaf ple angerddol aelodau Plaid Cymru, gwrthodwyd y cynnig. Bydd cymudwyr a thrigolion De Cymru, yn enwedig yn y Rhondda, yn siomedig iawn gyda hyn.

 

Ers i Trafnidiaeth Cymru (TFW) gymryd drosodd y gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru bum mlynedd yn ôl, mae’r gwasanaeth trên ledled y wlad wedi parhau i fod yn annibynadwy ac yn ddrud. Mewn gwirionedd, ar hyn o bryd TFW sydd â'r cyfraddau boddhad cwsmeriaid isaf ymhlith prif weithredwyr rheilffyrdd y DU.

Wedi’r ddadl, mynegodd Heledd Fychan, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, ei siom a’i phryder, gan ddweud: “Mae’n hynod o siomedig bod llywodraeth Cymru yn parhau i anwybyddu profiadau defnyddwyr trenau yng Nghanol De Cymru.

 

“Mae cau lein Treherbert ym mis Ebrill wedi cael effaith sylweddol ar drigolion y Rhondda. Mae llawer wedi colli eu swyddi oherwydd eu bod yn hwyr yn gyson, tra bod eraill wedi gorfod rhoi’r gorau i gyflogaeth yn gyfan gwbl oherwydd diffyg opsiynau trafnidiaeth amgen. Mae myfyrwyr wedi bod yn hwyr i’r ysgol, ac apwyntiadau wedi’u methu, gan achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra.

 

“Mae’r effeithiau negyddol yn mynd y tu hwnt i unigolion, gan fod busnesau lleol mewn trefi fel Ton Pentre a Threorci wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol, gyda llai o bobl yn ymweld â'r ardaloedd hyn oherwydd gwaith adeiladu rheilffordd parhaus a phroblemau traffig yn achosi colledion ariannol sylweddol i fusnesau.

 

“Byddaf yn parhau i ymgyrchu am well gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i’n holl gymunedau oherwydd ni allwn dderbyn mai dyma’r gorau y gallwn ei gael.”

 

Anogir unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan wasanaethau trafnidiaeth gwael yng Nghanol De Cymru i gysylltu â Heledd Fychan drwy e-bostio [email protected] neu dros y ffôn ar 01443 853214


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-10-27 10:43:43 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd