Yn dilyn y newyddion bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod galwadau i sicrhau bod darlledu y Chwe Gwlad yn cael ei gynnig ddarlledwyr di dâl yn uni, fe wnaeth llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AS godi cwestiwn brys yn y Senedd ar y mater ddoe.
Wrth siarad ar lawr y Senedd, amlinellodd Ms Fychan arwyddocâd diwylliannol a chymdeithasol chwaraeon, a phwysigrwydd sicrhau bod pawb yn gallu dilyn eu tîmau cenedlaethol. Nododd sut y gall gwylio chwaraeon ysbrydoli pobl i fod yn fwy egnïol, a phwysleisiodd hefyd bwysigrwydd darlledu digwyddiadau chwaraeon, fel y chwe gwlad, yn Gymraeg ar S4C. Mae darlledu Cymraeg yn cael ei wylio gan siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn ogystal a’r rheiny sydd ddim yn siarad yr iaith gan hyrwyddo defnydd yr iaith ar draws Cymru. Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i ysgrifennu at Lywodraeth y DU, i'w hannog i ailystyried.
Cafodd Ms Fychan gefnogaeth drawsbleidiol i'r safbwyntiau a gyflwynwyd, ac ymrwymiad y byddai'r Dirprwy Weinidog yn ei ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn ôl y gofyn.
Yn ddiweddarach dywedodd Ms Fychan: " Fel cenedl sydd â hanes balch o ran chwaraeon, mae gallu dilyn hynt a helynt ein timau cenedlaethol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hynod o bwysig, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.
Rwy’n falch o weld cefnogaeth trawsbleidiol i’r Chwe Gwlad fod yn rhad ac am ddim i wylio ar y teledu, ond mae’n hen bryd i Lywodraeth y DU wyrdroi ei penderfyniad a sicrhau bod y Chwe Gwlad yn parhau i fod ar gael i bawb ei wylio heb unrhyw gost ychwanegol.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter