Ddydd Mawrth 13 Medi, trafodwyd adolygiad annibynnol yr Athro Elwen Evans KC o adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020 a 2021 yn y Senedd.
Wedi'i sicrhau fel rhan o fytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, Mae’r adolygiad hwn yn gam pwysig i wella’r gwaith o reoli perygl llifogydd, gan gynnwys yr ymateb i achosion o lifogydd a’u canlyniadau, ledled Cymru.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Heledd Fychan AS, Aelod rhanbarthol Plaid Cymru dros Ganol De Cymru a chafodd ei rhanbarth taro gan lifogydd dinistriol yn 2020: "Ar ôl galw'n gyson am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, rwy'n croesawu'r adroddiad ac yn diolch i'r Athro Elwen Evans KC am arwain y gwaith hwn. Rwyf hefyd yn falch fy mod wedi gallu cyflwyno tystiolaeth i'r adolygiad, a hoffwn ddiolch i bawb a gysylltodd â mi fel rhan o'r gwaith hwn, a chaniatáu i mi rannu eu profiadau personol o lifogydd.
"Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at lawer o'r materion rwyf i a thrigolion wedi bod yn eu codi ers blynyddoedd, felly rwy'n falch o weld ei fod yn cydnabod aneffeithiolrwydd proses adran 19 a'r angen iddi gael ei hailgynllunio.
"Er bod yr adroddiad yn cynnig atebion posibl ar gyfer y dyfodol, mae llawer o gymunedau'n parhau i cael cwestiynau heb eu hateb am ddigwyddiadau 2020. Byddaf yn parhau i frwydro am atebion, fel bod gwersi'n cael eu dysgu a bod pob cymuned sy'n parhau mewn perygl yn derbyn yr atebion, y gefnogaeth a'r buddsoddiad y maent eu hangen ac yn eu haeddu."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter